Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Yn ogystal â darparu noddfa a diogelwch yng Nghymru, rydym yn cefnogi'r rhai sy'n dymuno parhau â’u hastudiaethau neu ddechrau arnynt.

Byddwn yn gwneud diwygiadau i'n rheoliadau sy’n ymwneud â’r cymorth a roddir i fyfyrwyr, er mwyn i unigolion, sydd â chaniatâd i aros o dan gynlluniau fisa Llywodraeth y DU ar gyfer gwladolion Wcráin ac aelodau o'u teuluoedd, allu cael cymorth i fyfyrwyr, statws ffioedd cartref, a'r cap ar ffioedd dysgu israddedig. Mae’r cynlluniau fisa i bobl o Wcráin yn cynnwys y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi ar gyfer Wcráin (Cartrefi i Wcráin), a Chynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin ar gyfer gwladolion o Wcráin neu aelodau agos o'u teulu a oedd eisoes yn y DU o dan lwybr fisa gwahanol.

Disgwylir i reoliadau gael eu gosod ym mis Gorffennaf, ac yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd Cymru, rhagwelir y bydd myfyrwyr yn gallu cael gafael ar gyllid myfyrwyr ar gyfer eu hastudiaethau o 1 Awst 2022 ymlaen. Bydd angen i fyfyrwyr fodloni meini prawf cymhwystra penodol.

Mae’n hanfodol bod pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn gallu manteisio ar gymorth i fyfyrwyr. Yn sgil hynny, mae modd iddynt fynychu cyrsiau addysg uwch i sicrhau y gallant anelu at y dyfodol, gwella eu sgiliau a gwella eu lles. Drwy estyn y cymorth i fyfyrwyr sy'n cyrraedd o Wcráin rydym yn gobeithio cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd a sicrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan hefyd sicrhau mynediad teg i ffoaduriaid ac i'r rhai sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n prifysgolion, sydd wedi ymateb mewn ffordd dosturiol iawn i'r argyfwng dyngarol, ac wedi cefnogi cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru. Maent wedi parhau i gydweithio ag asiantaethau fel y Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA) a Phrifysgolion Noddfa i sicrhau y gall cymorth i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel, gwrthdaro ac erledigaeth ddod o hyd i le academaidd diogel i astudio yng Nghymru.

Dylai unrhyw un sy'n ceisio noddfa ac sy'n dymuno dechrau cwrs addysg uwch yn nhymor yr hydref siarad yn uniongyrchol â swyddfa derbyniadau’r brifysgol o'u dewis cyn gynted â phosibl. Mae'r broses dderbyn arferol ar gyfer Medi 2022 eisoes ar y gweill, ond gall prifysgolion gynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n dymuno astudio yng Nghymru.

Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i roi'r croeso cynhesaf posibl i bobl sy'n ceisio noddfa o Wcráin. Ac rydym am sicrhau bod myfyrwyr sy'n cyrraedd yma yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddechrau cwrs addysg uwch ac addysg bellach neu i barhau â'u cwrs presennol.