Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy gydol pandemig Covid-19 mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau digynsail i gefnogi tenantiaid, gan eu hatal rhag dod yn ddigartref a'u cefnogi i aros yn eu cartrefi. Yn ogystal â'r cymorth presennol sydd ar gael, mae hyn wedi cynnwys:

  • Mesurau cyfreithiol i atal troi allan rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mehefin 2021;
  • Mesurau cyfreithiol i estyn cyfnodau hysbysu i chwe mis cyn y gellir dwyn achos gerbron llys a throi tenant allan, yn y rhan fwyaf o achosion – mae'r cyfnodau hysbysu bellach wedi'u hestyn hyd at ddiwedd Medi 2021;
  • £4.1 miliwn i ychwanegu at gyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai, i helpu'r rhai sy'n cael budd-daliadau tai sydd ag ôl-ddyledion rhent;
  • Ariannu Llinell Gymorth Dyledion y Sector Rhentu Preifat i gynghori a chefnogi tenantiaid y sector preifat sy'n cael trafferth o ran rhent, incwm a budd-daliadau tai – llinell gymorth a gaiff ei darparu gan Cyngor ar Bopeth Cymru;
  • £166 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol yn 2021-22 drwy'r Grant Cymorth Tai i ddarparu gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai. Mae'r gwasanaethau'n helpu i atal pobl rhag dod yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa o ran tai, neu helpu pobl a allai fynd yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw.
  • Ein cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth sy'n sicrhau bod benthyciadau cost isel ar gael i denantiaid yn y sector preifat a ddioddefodd newid incwm dros dro ac a aeth i ddyled gyda'r rhent;
  • Cyllid ar gyfer Shelter Cymru i gynghori a chefnogi tenantiaid.

Rydym yn ymwybodol y bydd y rheoliadau sy’n ymwneud â gwarchodaeth rhag troi allan yn dod i ben heddiw, ac rwy'n ymwybodol iawn bod pobl yn dal i wynebu anawsterau wrth dalu biliau eu cartref a'u rhent.

Mae tystiolaeth yn dangos, unwaith y bydd tenantiaid ar ei hôl hi gyda'u rhent, ei bod yn dod yn fwyfwy anodd iddynt ddal i fyny ag ôl-ddyledion rhent heb gymorth. O ganlyniad, mae'r tenantiaid hynny mewn perygl o fynd yn ddigartref, a dioddef y trawma sy'n gysylltiedig â hynny. Os byddant yn mynd yn ddigartref, mae'r effaith ar bobl a theuluoedd yn enfawr – gan gynnwys colli rhwydweithiau cymorth, plant yn gorfod symud ysgol, ac iechyd meddwl a lles teuluoedd yn dioddef.  

Yn ogystal ag effaith bersonol digartrefedd ar oedolion a phlant, mae'r gost o ddelio ag effaith digartrefedd i wasanaethau cyhoeddus, yn hytrach na'i atal yn y lle cyntaf, yn sylweddol uwch. 

Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio ar fesurau pellach i gryfhau'r cymorth i denantiaid. Ac rwy'n falch i gyhoeddi heddiw fath newydd o gymorth, sef y Grant Caledi i Denantiaid.

Bydd y grant yn cefnogi tenantiaid y sector rhentu preifat yng Nghymru sydd ag ôl-ddyledion rhent sylweddol o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig. Bydd tenantiaid nad ydynt yn cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai, ac sydd mewn dyled o wyth wythnos neu fwy gyda'u taliadau rhent o ganlyniad i'r pandemig, rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021, yn gymwys i wneud cais am grant.

Bydd y cynllun, gwerth £10 miliwn, yn helpu’r tenantiaid cymwys hyn i fynd i'r afael â'u hôl-ddyledion rhent a'u helpu i aros yn eu cartrefi.

Bydd y Grant Caledi i Denantiaid yn disodli'r cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth presennol. Hoffwn ddiolch i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Undebau Credyd sy'n cymryd rhan am eu hymrwymiad i gefnogi tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent drwy'r cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth. Bydd benthyciad tenantiaid sydd eisoes wedi cael benthyciad drwy’r cynllun yn cael ei droi’n grant.

Gall y rhai sy’n gymwys ar gyfer y Grant Caledi i Denantiaid gofrestru eu diddordeb gyda’u hawdurdod lleol o 1 Gorffennaf ymlaen. Bydd rhagor o wybodaeth am y meini prawf a’r broses ymgeisio ar gael cyn bo hir. Y bwriad yw prosesu ceisiadau am grant o ganol Gorffennaf ymlaen. Hoffwn ddiolch hefyd i’r awdurdodau lleol am barhau i weithio’n gyflym gyda ni i gefnogi pobl y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt.