Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

 

Mae cynllun Cymorth i Brynu – Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ymddengys y bydd cam cyntaf y cynllun yn llwyddo i gefnogi’r gwaith o adeiladu hyd at 5,000 o gartrefi newydd erbyn haf 2016. Hyd yma, mae 75% o fuddsoddiad Cymorth i Brynu wedi mynd i gefnogi pobl sy’n prynu eu cartrefi cyntaf. Heddiw, mae’n dda gennyf gyhoeddi ail gam y cynllun.

Mae’r hyn yr ydym yn ei gynnig ar gyfer cyllideb 2016-17, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gynharach yr wythnos hon, yn dangos ein hymroddiad parhaus i gynllun Cymorth i Brynu – Cymru; bydd yr ail gam hwn yn buddsoddi hyd at £290 miliwn gyda’r nod o gefnogi gwaith i adeiladu mwy na 6,000 o dai newydd ychwanegol erbyn 2021.

Mae Cymorth i Brynu - Cymru yn cyflawni’n union yr hyn y bwriadwyd iddo ei wneud; sef helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf a helpu teuluoedd i gael cartref braf, fforddiadwy. Mae’r cynllun hefyd yn parhau i roi hwb i’r diwydiant tai drwy gefnogi gwaith i adeiladu cartrefi newydd ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn fuddiol i’r economi – mae’n hwb i’r diwydiant tai ac i’w gadwyn gyflenwi.

Rydym eisoes yn gweld twf cyson o ran adeiladu tai newydd ac mae Cymorth i Brynu – Cymru wedi helpu i gefnogi hynny. Bydd y cynllun yn parhau i helpu pobl i brynu eu cartrefi newydd eu hunain, boed hynny’n gymorth i brynu cartref cyntaf neu’n gymorth i symud ymlaen i eiddo arall. Bydd y cynllun y  parhau i gynyddu’r cyflenwad o forgeisi blaendal isel ar gyfer pobl a theuluoedd sy’n teilyngu credyd.

Bydd meini prawf y cynllun yn parhau’r un peth; maent wedi profi i fod yn briodol ac yn berthnasol i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i sicrhau bod benthyciadau rhannu ecwiti ar gael ar gyfer hyd at 20% o bris cartrefi newydd (ar gyfer eiddo gwerth hyd at £300,000); hynny yw, benthyciadau o hyd at £60,000 heb log am gyfnod o bum mlynedd a chyda chyfraddau bychain ar ôl hynny.

Mae manylion y cynllun ar gael ar wefan Cymorth i Brynu – Cymru, a nodir y telerau ac amodau yng Nghanllaw’r Prynwyr a’r ddogfennaeth ategol.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynllun Cymorth i Brynu – Cymru hyd at 2021 ac mae’n sicrhau y bydd Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol a chefnogi’r sector adeiladu tai a’r bobl yng Nghymru sydd am brynu eu cartref eu hunain.