Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y byddwn yn gweld, yn 2022-23, y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw. Er gwaethaf galwadau eang ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gefnogaeth drwy ddatganiad y gwanwyn i helpu pobl sy'n ei chael yn anodd talu cost cynyddol biliau eu haelwyd, cyhoeddodd y Canghellor gynnydd o ddim ond £27 miliwn yng nghyllid adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
Gyda'r gyfradd chwyddiant a ragwelir yn 7.4% ar hyn o bryd, roedd datganiad y gwanwyn yn gyfle i unioni’r penderfyniad i gynyddu budd-daliadau lles 3.1% yn unig, i weithredu i leihau biliau ynni ac i leddfu rhywfaint o’r pwysau ariannol sydd ar aelwydydd sy'n agored i niwed ar hyn o bryd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.
Yn hytrach, mae Llywodraeth y DU - sy'n gyfrifol am y prif ddulliau o fynd i'r afael â thlodi - wedi dewis peidio â defnyddio'r pŵer gwario sydd ganddynt i fuddsoddi mewn mesurau o sylwedd i gefnogi pobl ar adeg pan fod mwy o angen arnynt nag erioed. Bydd pwysau sylweddol ar gyllidebau aelwydydd o ganlyniad i chwyddiant, prisiau ynni cynyddol a chynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae'r penderfyniad i beidio ag uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant yn golygu gostyngiad o £290 mewn termau real o flwyddyn i flwyddyn mewn incwm o fudd-daliadau ar gyfer ein cartrefi incwm isaf. Mae hyn ar ben y £1,000 y flwyddyn a gollodd dros 230,000 o aelwydydd fis Hydref diwethaf pan wnaeth Llywodraeth y DU ddileu’r cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i ddelio â'r cynnydd digynsail hwn mewn costau byw. Ers mis Tachwedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi dros £380 miliwn mewn pecyn cymorth i aelwydydd incwm isel i helpu gyda’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw.
Bydd y cymorth ariannol hwn yn helpu i ariannu taliad costau byw o £150 i bob aelwyd mewn eiddo sydd ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy'n derbyn cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor. Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol a bydd yn rhedeg o fis Ebrill i fis Medi eleni. Yn ogystal, bydd £25m arall ar gael i awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol. Byddant yn gallu targedu'r cyllid ychwanegol hwn i helpu aelwydydd sy’n cael trafferthion.
Roedd y pecyn cymorth hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a ddarparodd daliad o £200 i aelwydydd cymwys i helpu i dalu cost biliau hanfodol dros gyfnod y gaeaf. Bydd y cyllid hwn hefyd yn cefnogi cynllun cymorth tanwydd pellach a fydd yn cael ei lansio yn yr hydref. Rydym wrthi’n ystyried sut y gall y cynllun gyrraedd mwy o aelwydydd fel bod mwy o bobl yn cael y taliad o £200 sy'n cynnig cymorth mor hanfodol.
Ar ben hyn, dyrannwyd £2.84 miliwn arall i leddfu pwysau’r galw cynyddol ar fanciau bwyd a chefnogi camau gweithredu i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd. Roedd hyn yn adeiladu ar y buddsoddiad o £2 filiwn a ddarparwyd am y drydedd flwyddyn yn olynol i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd. Ym mis Mai, byddaf yn cynnal cyfarfod bord gron ar dlodi bwyd i ystyried sut y gellir defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol i leihau ac atal yr angen i ddibynnu ar ddarpariaeth bwyd brys.
Fel rhan o gyllideb derfynol 2022/23, mae £15m arall ar gael ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol. Bydd hyn yn helpu i ymestyn yr hyblygrwydd a roddwyd tan fis Mawrth 2023, gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael cymorth ariannol brys pan fydd ei angen arnynt. Mae'r ffigur hwn yn ychwanegol at y cynnydd o £7m y flwyddyn yng nghyllideb y gronfa am y tair blynedd nesaf.
Rydym yn ymestyn cymorth y Gronfa Cymorth Dewisol drwy gydol yr haf a'r gaeaf hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023 ar gyfer aelwydydd oddi ar y grid nad ydynt yn gallu fforddio eu cyflenwad nesaf o olew neu LPG oherwydd caledi ariannol eithafol. Bydd hyn yn helpu'r aelwydydd hynny drwy roi hyd at £250 fel taliad untro ar gyfer olew neu hyd at dri thaliad o £70 ar gyfer LPG.
Rwyf hefyd wedi cytuno i ymestyn y cyllid grant presennol ar gyfer y Gronfa Gynghori Sengl tan fis Mawrth 2023 ac, yn amodol ar gadarnhad o'r gyllideb, rwyf wedi cymeradwyo ymestyn y cyllid grant tan fis Mawrth 2024. Mae hyn yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd i ddarparwyr ar adeg pan fydd mwy o bobl angen eu cymorth i reoli'r problemau y mae’r argyfwng costau byw yn eu creu.
Mae risg sylweddol y bydd pobl mewn angen dybryd a'r rhai sydd â hanes credyd gwael ac nad ydynt yn ymwybodol o ddarparwyr fforddiadwy fel undebau credyd, yn troi at fenthycwyr cost uchel neu anghyfreithlon. Er mwyn lliniaru'r risg hon, rydym wedi sicrhau £620k ychwanegol yn 2022-23 er mwyn i undebau credyd allu parhau ag ymgyrch farchnata ddigidol ddwys ac ehangu eu benthyciadau fel eu bod yn gallu cefnogi mwy o bobl sydd mewn sefyllfa ariannol fregus. Mae hyn ar ben y £500k sydd eisoes yn eu le i gefnogi gwaith yr undebau credyd. Yn ogystal, bydd Cynllun Benthyciad Dim Llog yn dechrau yng Nghymru eleni, a fydd yn helpu hyd yn oed mwy o bobl i gael credyd fforddiadwy pan fydd ei angen arnynt.
Ym mis Hydref 2021, lansiwyd ein hail ymgyrch genedlaethol ar hawlio budd-daliadau er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl a'u hannog i gysylltu â Advicelink Cymru i gael gwybodaeth am sut i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Fe wnaethom hefyd ail-lansio ein hymgyrch treth gyngor ar 21 Mawrth 2022 i godi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o gymorth y gall aelwydydd ei gael gyda'u treth gyngor ac i annog pobl i ganfod a ydynt yn gymwys.
Rydym hefyd wedi darparu cymorth ariannol i gydnabod y pwysau sy'n wynebu grwpiau penodol: ym mis Mawrth cyhoeddwyd taliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn neu berson ifanc sy'n gymwys ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod; bydd mwy na 57,000 o ofalwyr di-dâl yn derbyn taliad o £500 i gydnabod eu rôl hanfodol yn ystod y pandemig; bydd tua 53,000 o weithwyr cartrefi gofal cofrestredig, gweithwyr gofal cartref a chynorthwywyr personol yng Nghymru hefyd yn derbyn taliad o £1,498 (gros) ochr yn ochr â chyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol.
Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi’n anodd iawn ar hyn o bryd a chymryd y camau sydd eu hangen i feithrin gwydnwch yn ein cymunedau. Byddaf yn cynnal ail uwchgynhadledd ar gostau byw yn yr haf pan fyddwn yn ystyried eto a oes mwy y gallwn ei wneud, drwy weithio gyda phartneriaid, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae'r argyfwng presennol wedi tynnu sylw atynt.