Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol a wnaeth ysgwyd Türkiye a Syria yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £300,000 i Apêl Daeargryn Türkiye a Syria y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC).
Mae dros 35,000 o bobl wedi cael eu lladd a thua 100,000 o bobl wedi’u hanafu ers i'r daeargryn pwerus cyntaf, a oedd yn mesur 7.8, daro yn oriau mân ddydd Llun 6 Chwefror. Ers hynny mae’r rhai sydd wedi goroesi wedi’u gadael heb gysgod mewn tywydd gaeafol rhewllyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Pwyllgor Argyfwng Trychinebau Cymru i helpu i gydlynu ymdrechion codi arian yng Nghymru, ac rydym yn falch o gyfrannu at Apêl Daeargryn Türkiye a Syria y DEC. Mae'r DEC yn dwyn ynghyd sefydliadau blaenllaw yn y DU i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor, gan gydlynu ymateb dyngarol effeithiol i gael cymorth yn gyflym i’r bobl sydd ei angen yn y modd mwyaf cost effeithiol posibl. Mae’r blaenoriaethau cychwynnol yn cynnwys mynediad at fwyd a dŵr glân yn ogystal â thriniaeth feddygol a lloches. Bydd apêl y DEC hefyd yn codi arian ar gyfer gwaith adsefydlu ac ailadeiladu mwy hirdymor.
Mae graddfa'r dinistr yn enfawr, a hoffwn ddiolch i'r timau chwilio ac achub dewr sydd wedi bod yn chwilio’n ddiflino drwy'r rwbel am oroeswyr, gan gynnwys diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy'n rhan o dîm o 77 o arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU sy'n darparu sgiliau ac offer arbenigol i helpu i ddod o hyd i oroeswyr a’u hachub.
Rydym yn deall bod pawb yng Nghymru yn awyddus i wneud popeth a allwn i helpu’r bobl y mae'r daeargrynfeydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys y rhai sydd â theulu a ffrindiau yn Syria a Türkiye. Rydym yn annog unrhyw un sy’n gallu helpu i ystyried gwneud cyfraniad ariannol i'r DEC a chefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn eu cymunedau.
I gael rhagor o wybodaeth am yr apêl a sut i gyfrannu, dilynwch y ddolen hon: Apêl Daeargryn Türkiye a Syria y DEC (Saesneg yn Unig).