Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyflogaeth ddiogel a chynaliadwy sy’n talu’n dda yn rhoi llwybr allan o dlodi a diogelwch rhag tlodi, nid yn unig i’r unigolyn, ond hefyd i’w teuluoedd.  Rwyf am sicrhau bod y cymorth cyflogadwyedd yr ydym yn ei roi ar waith ar gyfer y dyfodol yn galluogi unigolion i ffynnu a chyrraedd eu potensial mewn economi ddigidol a gwyrdd.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, 'Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau' yn ein hymrwymo i flaenoriaethu a chyfuno cymorth cyflogadwyedd cenedlaethol dan arweiniad Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Ymrwymwyd i dargedu'r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur a phobl â chyflyrau iechyd i ddod o hyd i waith. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn cyd-ddylunio ac yn cydweithredu, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid ar lefel leol a chenedlaethol, ledled y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddarparu dull personol ac unigol o gefnogi cyflogadwyedd yng Nghymru. Bydd hyn yn dechrau gyda nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu yn gynnar yn 2025 a datganiad llafar yn gynnar yn 2025 i ddiweddaru'r Senedd ar y dystiolaeth a gasglwyd a'r camau nesaf. 

Cynhelir y digwyddiadau ym mhob rhanbarth yng Nghymru dros y misoedd nesaf ac mae'r amserlen i'w gweld isod: 

RhanbarthDyddiad
Y De-ddwyrainDydd Iau 29 Ebrill 2025
Y GogleddDydd Iau 8 Mai 2025
Y CanolbarthDydd Iau 22 Mai 2025
Y De-orllewinDydd Iau 4 Mehefin 2025

Ynghlwm mae dolen i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau:

https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/ail-lunio-cymorth-llywodraeth-cymru-ar-gyfer-cyflogadwyedd/