Skip to main content

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Rwy'n hynod o falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud drwy ddatganoli i helpu mwy o bobl i gael gwaith o ansawdd da. Ers 1999, mae ymhell dros chwarter miliwn yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru. Mae cyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau wedi haneru ac mae'r rheini sydd â sgiliau addysg uwch wedi mynd o ychydig dros un o bob pump i fwy nag un o bob tri. 

Yn ddiweddar iawn, buom yn dathlu'r gyfres orau erioed o ffigurau'r farchnad lafur gyda diweithdra ar ei lefel isaferioed – sy'n dyst i'r gwaith a wnaed gennym dros nifer o flynyddoedd drwy ein rhaglen prentisiaethau a'n rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau ehangach.

Mae adeiladu ar y sylfaen gadarn hon wedi bod yn rhan hanfodol o'r gwaith yr wyf wedi bod ynghlwm wrtho yn ddiweddar – yn enwedig cefnogi'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i feithrin y sgiliau cywir, i gael swydd o ansawdd da ac i symud ymlaen tra mewn cyflogaeth. Rhaid i'n dull gweithredu newydd adeiladu ar y manteision a ddarperir gan ein rhaglenni sy'n gweithredu ledled Cymru ac sy'n arbennig o lwyddiannus wrth wasanaethu ein cymunedau mwyaf bregus. 

Byddaf yn parhau i ymdrechu i sicrhau bod atebion sgiliau a chyflogadwyedd yn hyrwyddo cyfle cyfartal a gwaith tecach ac wrth inni symud ymlaen bydd ein hymagwedd hefyd yn cefnogi gwell twf a chynwysoldeb ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n fwy ar leihau incwm anghydraddoldebau a newidiadau yn y farchnad lafur oherwydd awtomatiaeth a digidoli.

Mae'r flaenoriaeth barhaus hon i swyddi a thwf yn golygu bod angen i ni ganolbwyntio ar ddatblygiadau uwchlaw lefel y rhaglen neu'r prosiect unigol.  Mae arnom angen system ddiwygiedig sy'n fwy cydnaws â swyddi ac anghenion gyrfaol ôl-BREXIT unigolion ac anghenion sgiliau a chyflogaeth cyflogwyr yng Nghymru.  Mae angen i'r system hon sicrhau bod gwasanaethau a rhaglenni nad ydynt wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd yn gweithredu'n ddi-dor gyda'n dull o ddarparu'r cymorth cywir i unigolion ar yr adeg a'r lle cywir.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i barhau i arfogi pobl ifanc ac oedolion â'r sgiliau, paratoi gwaith, a'r gefnogaeth gyffredinol sydd eu hangen arnynt i gael gwaith a pharhau mewn cyflogaeth.

Rhan bwysig o hynny fu ail-lunio ein hymagwedd tuag at gymorth cyflogadwyedd – i'w gwneud yn haws cael gafael arni a'i theilwra'n fwy at anghenion unigolion.  Mae'r dyddiau o osod pobl  mewn  rhaglenni drosodd – drwy ein dull cyflogadwyedd newydd rydym am sicrhau bod rhaglenni yn seiliedig aranghenion pobl.  Mae symud y gwaith hwnnw yn ei flaen wedi cymryd amser a llawer o waith gofalus gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu ein dull gweithredu.  Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau bod y sefyllfa o ran cyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru mor lwyddiannus hyd yma. 

Sefydlu dull unigol o ddatrys yr holl rwystrau i gyflogaeth yw ein prif nod o hyd ac mae pwyslais parhaus ar sicrhau bodgwasanaethau lleol ar gael er mwyn mynd i'r afael â'r llu o rwystrau gwahanol y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cael gwaith.  Felly, rwy'n bwriadu datblygu sylfaenl dystiolaeth sy’n fwy cadarn  o ran rhwystrau i gyflogaeth sy'n gysylltiedig â'n hôl troed rhanbarthol er mwyn nodi bylchau mewn gwasanaethau a chysylltu ein trefniadau cynllunio â chanlyniadau cyflogadwyedd ehangach yn well.

Fel rhan o'm hymrwymiad parhaus i ddarparu dull unigol o ymdrin â chyflogadwyedd, gwnes lansio’r gwasanaeth newydd 'Cymru’n Gweithio' ar 1 Mai 2019.  Mae'r gwasanaeth cenedlaethol newydd, a ddarperir gan Gyrfa Cymru, yn ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar gyngor ac arweiniad proffesiynol, wedi'u teilwra ar eu cyfer.  Mae'r gwasanaeth yn darparu asesiad pwrpasol yn seiliedig ar anghenion a chyfeirio at gymorth priodol i gael swydd.  Mae'n cuddio cymhlethdod y tirlun sgiliau, fel y bydd y bobl ifanc a'r oedolion yn cael gwasanaeth syml iawn yn unig.

Fel y gŵyr yr Aelodau, darperir ein cymorth cyflogadwyedd a sgiliau drwy rwydwaith eang o ddarparwyr o ansawdd uchel gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, cyflogwyr a'r trydydd sector.  Nod y rhaglen newydd hon, sef Cymorth Gwaith Cymru, oedd cyfuno pum menter cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru i greu un cynnig wedi'i deilwra, gyda'r bwriad o'i gyflwyno ym mis Ebrill eleni.

Yn dilyn materion technegol gydag ymarfer caffael diweddar, gan gynnwys materion yn ymwneud â'r broses gymedroli yn arwain at sgoriau tendr terfynol, bu'n rhaid i ni ddiwygio ein dull gweithredu ac ni fydd rhaglen Cymorth Gwaith Cymru yn mynd rhagddi bellach fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Bydd ein rhaglenni presennol i gyd yn parhau i weithredu nes y gellir cyflwyno dewisiadau eraill. Bydd swyddogion yn manteisio ar y cyfle hwn i adolygu pa ddarpariaeth sy'n diwallu anghenion y garfan hon orau, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau ar gyfer cyllid ESF (neu debyg) o Ebrill 2021.

Ni fydd gwasanaethau ein rhaglenni yn gostwng mewn unrhyw ffordd a bydd pob un o'n mentrau presennol - gan gynnwys ReAct, Twf Swyddi Cymru, Mynediad, Hyfforddeiaethau a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn parhau'n agored i bobl fel arfer.

Mae cyflogaeth o ansawdd da yn cynnig y llwybr mwyaf cynaliadwy allan o dlodi ac rwy'n falch o'r cynnydd rydym wedi'i gyflawniond mae angen i ni barhau i wella a datblygu ein dull o ymateb i heriau'r dyfodol.  Rwy'n galw ar ein holl bartneriaid i weithio gyda ni i greu canlyniadau gwell i unigolion.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith ac rwy’nbwriadu gwneud datganiad ar hynt y gwaith yn ystod mis Mawrth 2020.

Rhannu’r dudalen hon