Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan ofal cymdeithasol wrth gefnogi rhai o'r bobl mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Hyd yn oed cyn argyfwng COVID-19 roedd Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi'r sector. Drwy gyflawni ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach, a gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), roeddem yn gweithio i gryfhau'r sector a galluogi ein gweithlu gofal cymdeithasol rhagorol i gefnogi pawb yng Nghymru sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Hoffem ei gwneud hi'n glir bod y gweithlu gofal cymdeithasol ar y rheng flaen wrth i'n gwasanaethau cyhoeddus fynd ati'n ddiymdroi i ymdrin â'r sefyllfa sydd ohoni. Bob dydd, mae tua 65,000 o staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol sydd ar y rheng flaen yn darparu gofal hanfodol, a hynny o dan amgylchiadau tra heriol yn aml. Mae ein dyled iddynt yn fawr ledled Cymru, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o waelod calon i bawb sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Ddydd Mawrth, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn darparu swm sylweddol o gyllid i'r sector gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn helpu i dalu'r costau ychwanegol yr eir iddynt o ganlyniad i argyfwng COVID-19. Mae ein tîm wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, darparwyr annibynnol, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a chynrychiolwyr o'r sector, gan gynnwys Fforwm Gofal Cymru, er mwyn nodi'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen nawr i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ac er mwyn sicrhau y gellir diwallu anghenion gofal newydd yn llawn yn sgil COVID-19.

Mae costau darparwyr yn cynyddu mewn nifer o feysydd, gan gynnwys staffio, cyfarpar diogelu personol sylfaenol, bwyd a TGCh. Yn gyffredinol, yn seiliedig ar ymgysylltu helaeth â darparwyr, mae'r costau wedi cynyddu rhwng 10 a 30 y cant ar gostau sylfaenol darparwyr gofal i oedolion, ar gam cychwynnol yr argyfwng. At ei gilydd, mae'r costau hyn yn cynrychioli'r galw am gyllid ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i gomisiynu gofal.

Felly, fe wnaethon ni gyhoeddi gwerth £40m o adnoddau ychwanegol nawr, gyda'r bwriad o adolygu'r sefyllfa ac, o bosibl, ddyrannu cyllid pellach, yn dibynnu ar yr hyn a fydd yn digwydd o ran COVID-19. Bydd y cymorth hwn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn galluogi awdurdodau lleol i helpu i dalu’r costau cynyddol y mae eu darparwyr yn eu hwynebu. Bydd hwn yn cael ei ddarparu drwy gronfa frys a sefydlir i gwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd mis Mai i ddechrau. Mae'r cyllid yn cwmpasu darpariaeth gofal cymdeithasol a gomisiynwyd i oedolion yn ei gyfanrwydd. Daw'r dyraniad o £40m o'r £1.1 biliwn a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru yn ddiweddar i dalu costau COVID-19 ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.