Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol a sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gael i bawb drwy gydol eu bywydau, beth bynnag eu cefndir, a'u bod yn gallu manteisio arnynt. Mae buddsoddi mewn addysg uwch yn cynyddu cyfle pobl i ennill mwy a sicrhau gwell iechyd a lles. Fy mlaenoriaeth i yw cefnogi mwy o ddysgwyr i aros mewn addysg ôl-16, a chanolbwyntio ar godi lefel sgiliau er budd economi Cymru i'r dyfodol.
Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i ddilyn astudiaethau addysg uwch. Rwy'n cyhoeddi cynnydd heddiw felly i gymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu pwysau'r costau byw sy'n parhau.
Bydd y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig rhan-amser ac amser llawn cymwys o Gymru yn cynyddu 1.6%, ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau. Bydd ystod o grantiau a lwfansau eraill hefyd yn cynyddu 1.6% ar gyfer 2025/26, gan gynnwys yr uchafswm cymorth ar gyfer astudiaethau meistr ôl-raddedig ac astudiaethau doethurol ôl-raddedig. Mae'r cynnydd yn gysylltiedig â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnig y cymorth mwyaf hael tuag at gostau byw myfyrwyr israddedig amser llawn yn y DU.
Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch ledled y DU, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi sector addysg uwch cynaliadwy, lle mae sefydliadau cryf yn abl i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer myfyrwyr a gwaith ymchwil, a gyrru twf economaidd.
Bydd y terfyn ffioedd dysgu, felly, - sef yr uchafswm y gall darparwyr a reoleiddir ei godi ar rai myfyrwyr ar rai cyrsiau israddedig amser llawn - yn codi o £9,250 i £9,535 ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025. Yr un fydd y lefel yn Lloegr. Bydd hyn yn darparu incwm ychwanegol i sefydliadau yng Nghymru i adlewyrchu costau uwch addysg ac i helpu i ddiogelu darpariaeth a buddsoddiad ym mhrofiad myfyrwyr.
Bydd y cap uwch ar ffioedd dysgu yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr cymwys sy'n astudio yng Nghymru, nid dim ond i fyfyrwyr o Gymru.
Bydd uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu yn cynyddu i £9,535 i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru sy'n astudio yng Nghymru neu Loegr, ac i rai eraill sy'n astudio yng Nghymru. Ar gyfer cyrsiau a ddynodwyd yn benodol gan Weinidogion Cymru, bydd uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu yn cynyddu i £6,355 i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru. Mae hyn yn parhau â'n polisi hirsefydlog o sicrhau nad yw'r un myfyriwr yn gorfod talu ei ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Nid yw ffioedd dysgu ar gyfer astudiaethau israddedig rhan-amser ac ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn cael eu rheoleiddio. Ni wneir newidiadau mewn perthynas â'r rheini felly.
Mater i ddarparwyr addysg uwch yw penderfynu ar y ffioedd dysgu i'w codi ar fyfyrwyr. Nid yw Llywodraeth Cymru yn pennu'r ffioedd, dim ond yr uchafswm y ceir ei godi mewn rhai amgylchiadau. Dylai myfyrwyr siarad â'u prifysgol neu ddarparwr arall os oes ganddynt gwestiynau am eu ffioedd.
Rwyf am fod yn glir na ddylai'r cynnydd bach hwn mewn ffioedd ddarbwyllo unrhyw un o Gymru sy'n ystyried gwneud cais am brifysgol y flwyddyn nesaf i beidio â gwneud hynny. Ni fydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw. Ni fydd chwaith yn cynyddu eu had-daliadau misol nes eu bod yn ennill cyflog ar lefel benodol yn ddiweddarach mewn bywyd - fel rheol ymhell ar ôl iddynt raddio. Rydym hefyd yn darparu diddymiad rhannol o hyd at £1,500 o ddyled myfyriwr, pan fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad, sy'n lleihau ymhellach yr hyn y gallai fod yn ofynnol i fyfyriwr ei ad-dalu. Mae hyn yn unigryw i fyfyrwyr o Gymru, lle bynnag y maent yn astudio.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw £20 miliwn ychwanegol ar gyfer Medr i gefnogi addysg bellach ac uwch yng Nghymru. Bydd y dyraniad hwn sy'n cael ei roi yn ystod y flwyddyn yn help i ddelio â'r heriau ariannol sy'n wynebu ein colegau a'n prifysgolion, gan ganolbwyntio'n benodol ar ariannu'r niferoedd uwch sy'n manteisio ar addysg bellach yn ogystal â chymorth ariannol ychwanegol ar gyfer ein prifysgolion.