Kirsty Williams, AS, y Gweinidog Addysg
Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu myfyrwyr rhyngwladol i Gymru ac yn cydnabod ac yn parchu'r cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud, yn enwedig o ran agor Cymru i’r byd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i alluogi pobl Cymru i astudio dramor.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi'r gorau i ddarparu cymorth i ddinasyddion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd ar ôl diwedd cyfnod pontio’r UE y mis Rhagfyr eleni. Ni fydd y rheini sy'n dechrau cyrsiau mewn sefydliadau addysg yn Lloegr ar neu ar ôl 1 Awst 2021 yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr na statws ffioedd cartref bellach. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi na fydd bellach yn darparu cymorth i fyfyrwyr o’r UE o 2021/22.
Yn unol â hyn a chan adlewyrchu’r ffaith bod y trefniadau cyllid myfyrwyr yn cynnwys rhyngddibyniaethau cymhleth gyda rheolau wedi’u pennu gan Drysorlys y DU, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi'r gorau i ddarparu’r un cymorth i wladolion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd â’r hyn a roddir i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Ni fydd myfyrwyr sy'n dechrau cwrs addysg uwch neu bellach ar neu ar ôl 1 Awst 2021 yn gymwys i gael cymorth nac, yn achos cyrsiau addysg uwch, statws ffioedd cartref.
Bydd myfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau cwrs neu’n dechrau ar gwrs cyn 1 Awst 2021 yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn cymorth ac i gael statws ffioedd cartref gydol eu cwrs.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi cymorth i'r rheini a fydd yn elwa ar hawliau dinasyddion (‘Statws Preswylydd Sefydlog’) o dan y cytundeb ymadael â'r UE. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu rhoi cymorth i wladolion Gweriniaeth Iwerddon o dan y trefniant ardal deithio gyffredin.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.