Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi.
Yn dilyn fy natganiad ynglŷn â'r £120 miliwn o gymorth ariannol sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan Omicron, gallaf gadarnhau bod y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer elfen Cadernid Economaidd y cyllid bellach yn fyw ar wefan Busnes Cymru.
Gallwch ddod o hyd i’r gwiriwr ar COVID-19 Crisis Support Tool | Business Wales
Bydd y gronfa yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru a bydd grantiau dewisol yn cael eu darparu i’r sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a’u cadwyni cyflenwi drwy broses ymgeisio ac yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.
Bydd cyfnod ymgeisio y gronfa yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Ionawr ac yn parhau i fod ar agor am bythefnos.
Mae’r gronfa ar agor i fusnesau sydd â rhwng 1 a 249 o gyflogeion cyfwerth â llawn amser (FTE), gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol.
Dyma’r grantiau sydd ar gael i fusnesau cymwys:
Cyfwerth â Llawn Amser (FTE) | Busnesau wedi’u cau gan reoliadau ar 27.12.21 | Mannau digwyddiadau ac atyniadau | Busnesau eraill sydd â chyfyngiadau |
---|---|---|---|
1-3 |
£5,000 | £3,500 | £2,500 |
4-9 |
£10,000 | £7,000 | £5,000 |
10-49 |
£15,000 | £12,000 | £7,500 |
50-99 |
£20,000 | £15,000 | £10,000 |
100+ |
£25,000 | £20,000 |
£15,000 |
Yn ogystal â’r Gronfa Cadernid Economaidd, bydd Awdurdodau Lleol yn darparu grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT). Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn:
- Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £2,000.
- Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys am daliad o £4,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
- Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys am daliad o £6,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
Bydd awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg cronfa ddewisol drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi yn gallu gwneud cais am £500 a bydd busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am £2,000.
Bydd y broses gofrestru ar gyfer y grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig a’r broses ymgeisio ar gyfer y gronfa ddewisol yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau ar 10 Ionawr 2022.