Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn pellach o gymorth ardrethi annomestig i fusnesau ledled Cymru yn 2025-26.
Byddwn yn buddsoddi £78m ychwanegol i ddarparu cymorth am y chweched flwyddyn yn olynol ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden, a lletygarwch er mwyn eu helpu gyda'u biliau ardrethi annomestig. Mae'r cymorth parhaus hwn yn cydnabod y pwysau economaidd y mae'r busnesau hyn wedi eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan adeiladu ar £1bn o gymorth a ddyrannwyd drwy ein cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ers 2020-21.
Bydd talwyr ardrethi cymwys yn parhau i gael rhyddhad ardrethi annomestig o 40% drwy gydol 2025-26. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd y rhyddhad yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru. Mae hwn yn rhyddhad dros dro na fydd yn parhau am gyfnod amhenodol.
Hefyd, byddwn yn rhoi cap o 1% ar y cynnydd i’r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2025-26, ar gost flynyddol reolaidd o £7m i gyllideb Cymru. Mae hyn yn is na'r cynnydd o 1.7% a fyddai fel arall yn berthnasol yn sgil chwyddiant diofyn y lluosydd yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ac fe ddaw â budd i bob talwr ardrethi nad yw eisoes yn cael rhyddhad llawn.
Mae'r holl gyllid canlyniadol ar gyfer Cymru, sy'n deillio o benderfyniadau'n ymwneud â'r lluosydd ac a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Hydref Llywodraeth y DU, yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn.
Ni fydd cynnydd yn y lluosydd yn effeithio ar bron i hanner y talwyr ardrethi, gan gynnwys miloedd o fusnesau bach ledled Cymru, gan fod ein system hael o ryddhadau yn golygu nad ydynt yn talu ardrethi o gwbl.
Trefnir dadl ar y rheoliadau i osod y lluosydd yn y flwyddyn newydd. Yn amodol ar gymeradwyo'r rheoliadau, y lluosydd dros dro ar gyfer 2025‑26 yw 0.568.
Gyda'i gilydd, mae hwn yn becyn gwerth £85m o gymorth ychwanegol ar gyfer 2025-26. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhyddhadau parhaol sy’n cael eu hariannu’n llawn, ac sy’n werth £250m i fusnesau ac eraill sy’n talu ardrethi bob blwyddyn.
Bydd cyfanswm o £335m yn cael ei wario ar gymorth ardrethi annomestig yn 2025-26. Bydd pawb sy'n talu ardrethi yn elwa ar y pecyn hwn, sy'n dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i adfer a ffynnu ar ôl yr heriau economaidd diweddar.
Yn ogystal â'r Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a chapio'r lluosydd, rydym hefyd wedi cadarnhau y bydd y rhyddhad o 100% ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig yn barhaol. Mae hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad i gefnogi'r sector gofal plant, a bydd yn parhau i arbed £3.4m i ddarparwyr bob blwyddyn, fel rhan o'n pecyn o ryddhadau parhaol.
Yn ehangach, rydym ar y trywydd iawn i gyflawni'r rhaglen o ddiwygiadau ardrethi annomestig a nodir ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn gwneud gwelliannau sylweddol i'r system, gan gynnwys ailbrisiadau amlach, fframwaith i fynd i'r afael ag osgoi, a'r gallu i deilwra'r dreth i adlewyrchu ein blaenoriaethau i Gymru mewn modd mwy ymatebol.