Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae cynghorau cymuned a thref yn rhan annatod o lywodraeth leol. Maent yn atebol yn ddemocrataidd ac yn gweithio ar y lefel fwyaf lleol i wella eu cymunedau.
Cyhoeddwyd adroddiad diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru, Rheolaeth Ariannol a Llywodraethu - Cynghorau Tref a Chymuned 2018-19, ar 5 Chwefror. Nodwyd yn yr adroddiad mai “dim ond 66% o’r holl archwiliadau yn 2018-19 oedd wedi cael eu cwblhau erbyn y terfyn amser statudol, sef 30 Medi 2019” ac yr “arweiniodd problemau arwyddocaol at gyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd ar 12 o gynghorau”.
Rwyf eisiau sicrhau bod gan yr holl gynghorau yr offer sydd eu hangen arnynt i fodloni eu gofynion statudol ac i lywodraethu'n gryf er mwyn cefnogi eu cymunedau. Yn y cyfamser, mae nifer o gynghorau cymunedol yn ffynnu. Maent yn barod i gymryd cyfrifoldebau ychwanegol ac mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cynnig pwerau newydd i gynghorau cymwys, hy y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol.
I gydnabod y cymorth sydd ei angen, rwy'n rhyddhau hyd at £500,000 yn 2020-21 i gryfhau rheolaeth ariannol a llywodraethu ar draws y sector. Budd y buddsoddiad ychwanegol yn cael ei wneud ar ben y cymorth cyffredinol blynyddol sy'n cael ei roi i'r sector gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn adlewyrchu'r meysydd perthnasol y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu arnynt yn dilyn adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol ar Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.
Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fynd ati ar unwaith i weithio gyda’n partneriaid yn Un Llais Cymru, y Gymdeithas ar gyfer Clercod Cynghorau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu cynigion creadigol ar gyfer pecyn cymorth i roi hwb i'r seilwaith llywodraethu ar draws y sector. Prif nodau’r gwaith hwn fydd rhoi hwb tymor byr i hyfforddiant a chymorth i glercod a chynghorwyr, a datblygu dull hunanwella cynaliadwy ar gyfer cynghorau ar y cyd â’n phartneriaid. Ein nod yw magu hyder yn nhrefniadau llywodraethu cynghorau a gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Yn y tymor hwy, rwyf eisiau gweithio gyda'r cynghorau cymuned a thref a'n partneriaid i ddatblygu cynigion cynaliadwy ar gyfer gwella'r seilwaith llywodraethu a’r cymorth a roddir i’r sector, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad annibynnol. Rwy'n gobeithio ymgynghori'n ehangach ar y cynigion hyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn y cyfamser, rwy'n annog pob cyngor i ystyried cryfhau ei drefniadau ar gyfer rheolaeth ariannol a llywodraethu drwy fanteisio ar y cyfleoedd ychwanegol a fydd ar gael yn 2020-21.