Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 7 Rhagfyr 2012, cyhoeddais fy mhenderfyniad i oedi cyn rhoi pecyn newydd o gymorth ar waith ar gyfer israddedigion rhan-amser sydd fel arfer yn byw yng Nghymru.  

Ers gwneud y cyhoeddiad hwnnw, rwyf wedi ystyried yr effaith sylweddol a gafodd cyflwyno ffioedd uwch ar gyrsiau addysg uwch rhan-amser yn Lloegr.  Er na fydd yr wybodaeth derfynol am gofrestru ar gyfer 2012/13 ar gael am gryn amser, mae’r data cychwynnol yn awgrymu y bu gostyngiadau sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy’n dymuno ymuno â chyrsiau rhan-amser yn Lloegr.  

Mae addysg uwch rhan-amser yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.  I annog dysgu rhan-amser yng Nghymru, rwy’n bwriadu sicrhau bod cyllid ar gael i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i barhau i roi cymhorthdal tuag at gostau cyflenwi cyrsiau rhan-amser.  Byddaf yn disgwyl i CCAUC barhau i ariannu’r ddarpariaeth ran-amser ar y lefelau presennol ar y cyfan, a byddaf yn disgwyl i sefydliadau addysg uwch ffrwyno eu hunain wrth osod ffioedd dysgu rhan-amser.  

Rwy’n ymwybodol y bydd angen cymorth ar rai myfyrwyr i dalu costau ymlaen llaw ar gyrsiau rhan-amser.  Er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr gradd ddigon o arian i dalu’r ffi llawn, o 2014/15, bydd yn bosib i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio mwy na 25% o gwrs llawn gael benthyciad heb brawf modd gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.  Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ar weithredu’r newidiadau arfaethedig i’r system cymorth i fyfyrwyr o 2014/15.