Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ar 6 Tachwedd ynghylch sefydlu Tasglu Cartrefi Fforddiadwy, rwy'n falch o gadarnhau aelodau'r grŵp craidd sy'n cefnogi fy nghydweithiwr Lee Waters, AS. 

Cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf ar 18 Tachwedd. 

Aelodau

Amanda Davies, Cadeirydd Cymoedd i'r Arfordir            

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Arweinydd Tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru             

Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn  

Mark Hand, Cyfarwyddwr Cymru, Gogledd Iwerddon a Chymorth Cynllunio Lloegr yn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI)

Andrew Farrow, Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir y Fflint 

Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru.

Bydd y grŵp hwn yn cael ei ehangu gan arbenigwyr diwydiant a sector ar sail thematig wrth i'r gwaith fynd rhagddo. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r cyflymder o ran sefydlu'r tasglu ac edrychaf ymlaen at dderbyn ei argymhellion ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.