Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Mae cysylltiad annatod rhwng y gwaith o ddarparu mwy o gartrefi â'n huchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, a rhaid iddo barhau felly. Ni allwn wireddu ein huchelgeisiau heb gyflenwad digonol o gartrefi addas y gall pobl fforddio byw'n dda ynddynt, ynghyd â systemau ymyrraeth gynnar, atal a chymorth.
Dros yr haf, ysgrifennais at awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda her i wneud popeth o fewn ein gallu cyfunol i ddarparu pob cartref ychwanegol posibl. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn y sector am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad diwyro i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, drwy atal a darparu mwy o gartrefi.
Yn fy Natganiad Llafar ar 1 Hydref, dywedais fy mod yn adolygu opsiynau i sefydlu Tasglu Cartrefi Fforddiadwy i gefnogi ein gwaith. Rwyf bellach wedi rhoi fy ystyriaeth lawn i hyn, a chredaf fod ffocws ar gymorth ymarferol a gweithredu wrth ddatgloi a chynyddu datblygiadau tai fforddiadwy yn allweddol. I'r perwyl hwn, rwy’n falch bod fy nghyd-Aelod Lee Waters, AS wedi cytuno i ymgymryd â'r her hon.
Mae ein gwaith ymgysylltu â phartneriaid yn y sector yn rhoi adborth gwerthfawr ar yr heriau a'r rhwystrau posibl y maent yn eu hwynebu wrth gyflawni rhai cynlluniau erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Rydym wedi cymryd camau i ymateb i'r heriau, ond mae'n iawn bod yn rhaid i ni barhau i herio ein hunain i archwilio beth arall y gallwn ei wneud i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.
Bydd gwaith Lee Waters AS yn cynnwys dau lif gwaith cysylltiedig. Bydd yn canolbwyntio yn gyntaf ar weithredu tymor byr i ddarparu cartrefi’n gynt yn ein rhaglen adeiladu gyfredol. Gan adeiladu ar lwyddiant ein Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, bydd y llif gwaith hefyd yn edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio safleoedd sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus yn y cyfamser gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern i ddarparu cartrefi yn nhymor y Llywodraeth hon.
Bydd ffocws mwy tymor hir ar gam dau. Wedi'i lywio gan y materion a nodir wrth fynd i'r afael â'r heriau tymor byr, bydd y Grŵp Cyflawni yn gwneud argymhellion ar gyfer newid y system yn ymarferol i symleiddio’r broses o ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer rhentu cymdeithasol.
Bydd Lee Waters, AS, yn cymryd ymagwedd hyblyg tuag at y gwaith a gefnogir gan grŵp craidd bach o arbenigwyr yn y sector ac yn manteisio ar arbenigedd ehangach yn ôl yr angen.
Edrychaf ymlaen at weld cynnydd y gwaith pwysig hwn ac at dderbyn y mewnwelediadau a'r canlyniadau a fydd yn ein helpu i sbarduno'r gwaith o ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen.