Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gynllun grant cyfalaf sy'n cynnig grantiau ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned i wella cyfleusterau cymunedol sy'n cael eu defnyddio'n helaeth ac y mae gwir eu hangen. Gall hyn gynnwys clybiau chwaraeon, canolfannau cymunedol, neuaddau pentref a mannau gwyrdd.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd un ar bymtheg o brosiectau ar draws Cymru'n elwa ar gyfran o £2.372 miliwn ar ffurf grantiau cyfalaf o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol. Bydd y grantiau hyn yn caniatáu i brosiectau gwerth £5.295 miliwn fynd rhagddynt. 

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynyddu nifer y prosiectau sydd wedi elwa ar y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn 2019-20 i dri deg a phump, a chynyddu cyfanswm y grantiau a ddyfarnwyd i £5.125 miliwn. Mae'r prosiectau hyn yn cynrychioli cyfanswm o £20.815 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf mewn cymunedau yng Nghymru. Mae pob un o'r prosiectau'n ymwneud â man cymunedol sy'n agos at galon llawer ac sy'n darparu ystod o wasanaethau hanfodol i'r gymuned y mae'n ei wasanaethu.

Darperir grantiau ar ddwy lefel: hyd at £25,000 ar gyfer prosiectau bach fel gosod cegin a thoiledau, lifft neu welliannau eraill i wella hygyrchedd. O'r un ar bymtheg o ddyfarniadau a gyhoeddwyd heddiw, gwnaeth pump ohonynt gais am lai na £25,000. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys grant o £25,000 ar gyfer Men's Shed yn y Rhyl a fydd yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu hen dafarn er mwyn i'r gymuned allu defnyddio'r adeilad; a £24,000 ar gyfer Neuadd y Frenhines yn Arberth er mwyn darparu arwyddion digidol a gwella'r wybodaeth sydd ar gael i'r gymuned leol. Ceir manylion llawn y dyfarniadau hyn isod.

Mae grantiau mwy o faint o hyd at £250,000 hefyd ar gael o dan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol er mwyn cefnogi grwpiau sydd eisiau gwneud gwaith adnewyddu mawr, adeiladu estyniadau neu hyd yn oed ddatblygu cyfleusterau cymunedol newydd. O'r un ar bymtheg o brosiectau a gyhoeddwyd heddiw, mae un ar ddeg wedi cael grantiau mawr. Mae'r rhain yn cynnwys £250,000 i Gyngor Hil Cymru i ddatblygu Canolfan Ddiwylliannol BAME yn Theatr y Grand yn Abertawe; a £119,940 i Eglwys Sant Bartholomew yn Sealand i ddarparu cegin a thoiledau hygyrch er mwyn i'r gymuned allu ddefnyddio adeilad yr eglwys. Ceir manylion llawn y dyfarniadau hyn isod.

Mae'r rhaglen hon bellach wedi cefnogi prosiectau ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Dyfarniadau o lai na £25,000

  • Cymdeithas Gymunedol Garndiffaith, Pont-y-pŵl, Torfaen: dyfarnwyd £25,000 tuag at y gost o adnewyddu'r toiledau cyhoeddus yn Neuadd y Mileniwm.
  • Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro: dyfarnwyd £24,000 tuag at y gost o greu canolfan wybodaeth ddigidol i'r gymuned a fydd yn rhoi gwell gwybodaeth i ymwelwyr â'r gymuned am ddigwyddiadau sy'n digwydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
  • Clwb Criced Clydach, Abertawe: dyfarnwyd £25,000 tuag at y gost o adnewyddu'r clwb.
  • Men’s Shed, y Rhyl, Sir Ddinbych: cynigwyd £250,000 tuag at y gost o adnewyddu'r hen dafarn er mwyn i'r gymuned allu i defnyddio’r adeilad.
  • Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr, Aberogwr, Bro Morgannwg: rhoddwyd £24,000 tuag at y gost o ddatblygu neuadd bentref newydd.

Dyfarniadau o hyd at £250,000

  • Cardiff Olympic Gymnastics Ltd, Trelái, Caerdydd: dyfarnwyd £55,000 tuag at y gost o adnewyddu a gwella'r cyfleusterau gan gynnwys gosod system wresogi newydd.
  • Cyngor Hil Cymru, Canolfan Ddiwylliannol ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), Abertawe: dyfarnwyd £55,000 tuag at y gost o ddatblygu Canolfan yn Theatr y Grand, Abertawe.
  • GCT (Gweithredu Caerau Trelái), Dusty Forge, Trelái, Caerdydd: cynigwyd £250,000 tuag at y gost o adnewyddu'r cyfleusterau, gan gynnwys gwella'r toiledau a'r system wresogi.
  • YMCA, Abertawe: dyfarnwyd £250,000 tuag at gost y gwaith adnewyddu parhaus gan gynnwys adnewyddu'r tu allan i'r adeilad a gosod system wresogi newydd.
  • Pwyllgor Neuadd Goffa Bodwrog, Ynys Môn: dyfarnwyd £111,567 tuag at y gost o adnewyddu'r neuadd a gosod cegin a thoiledau newydd erbyn y canmlwyddiant yn 2020.
  • Eglwys Unedig y Barri, y Barri, Canolfan Gymunedol The Bridge Between, y Barri, Bro Morgannwg: dyfarnwyd £250,000 tuag at y gost o gael adeilad pwrpasol i'r Eglwys a'r gymuned yn lle'r adeilad dros dro presennol.
  •  YMCA Hirwaun, Hirwaun, Rhondda Cynon Taf: rhoddwyd £212,900 tuag at y gost o adnewyddu ac ailstrwythuro cyfleusterau i gael lle ar gyfer Dechrau'n Deg.
  • Eglwys Sant Bartholomew, Sealand, Sir y Fflint: cynigwyd £119,940 i ddarparu cegin a thoiled hygyrch yn yr eglwys i hwyluso defnydd y gymuned.
  • Plwyf St Thomas a Chilfái, Abertawe: cynigwyd £250,000 tuag at y gost o roi neuadd newydd yn lle neuadd yr eglwys bresennol. Bydd y prosiect yn ailstrwythuro tu mewn yr eglwys fel canolfan gymunedol.
  • Cambrian Village Trust, Lakeside Development, Rhondda Cynon Taf: Cynigwyd £250,000 tuag at y gost o roi caban coed mwy parhaol yn lle'r adeilad dros dro presennol.
  • Eglwys Sant Cynderyn a Sant Asa, Llanelwy, Sir Ddinbych: dyfarnwyd £250,000 tuag at y gost o wella'r adeilad presennol er mwyn cynyddu defnydd y gymuned.