Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig i'r Cynulliad ym mis Chwefror, dywedais fod angen inni, yma yng Nghymru, godi safonau perfformiad i bawb, fel bod pob un yn cyflawni ei botensial. Er mwyn bodloni'r amcan hwn, rhaid inni gynhyrchu athrawon medrus iawn, sydd â gwybodaeth drylwyr am amrywiaeth o strategaethau ar gyfer gwella deilliannau; sy'n deall y theorïau a'r cysyniadau sydd wrth wraidd y strategaethau hynny; ac sydd, o ganlyniad, yn gallu sicrhau bod dysgu ac addysgu mwy effeithiol yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth.

Ni ellir cyflawni hyn drwy Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn unig. Rhaid i athrawon barhau i ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau a'u gwybodaeth wedi iddynt gael eu penodi i swydd. Dylai diwylliant o ddysgu gydol oes, myfyrio ac ymchwilio ddod yn rhan annatod o'r proffesiwn addysgu.

Yn ôl yr adolygiad o Safonau Proffesiynol, Rheoli Perfformiad a Datblygiad Proffesiynol, a gafodd ei gwblhau yn 2010, mae’r ffordd y mae'r trefniadau ar gyfer y Cyfnod Ymsefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar (EPD) yn cael eu dehongli, a'u rhoi ar waith, yn ogystal ag ansawdd y trefniadau hynny, yn amrywio'n fawr ledled Cymru. Er bod llawer o ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn sicrhau bod Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) ac athrawon EPD yn cael profiad o ansawdd uchel, roedd yr adroddiad yn dangos hefyd nad oedd anghenion athrawon sydd newydd ddechrau ar eu gyrfa yn cael eu nodi na'u bodloni'n ddigonol mewn ysgolion ac Awdurdodau Lleol eraill.

Yn fy araith ym mis Mehefin, dywedais ein bod yn ystyried amrywiol opsiynau ar gyfer cyflwyno elfen ar lefel Feistr i'r fframwaith datblygiad proffesiynol yr ydym yn ei lunio ar gyfer athrawon. Rwy'n falch o gyhoeddi yn awr, o fis Medi 2012 ymlaen, y bydd pob ANG yn cael y cyfle i ddilyn rhaglen Feistr fel rhan o'u Cyfnod Sefydlu a'u EPD. 

Bydd cyflwyno cymhwyster Meistr ar gyfer athrawon sydd wedi cyrraedd y cam hwn yn eu gyrfa yn helpu i fynd i'r afael â'r anghysondeb yn ansawdd y Sefydlu a'r EPD y mae athrawon yn eu cael ledled y wlad. Bydd hefyd yn gam cadarnhaol tuag at leihau'r amrywiad rhwng ansawdd athrawon a deilliannau dysgwyr mewn ysgolion unigol, a rhyngddynt.

Rydym wedi gweithio gyda'r Athro Alma Harris i gynllunio rhaglen dair blynedd sy'n hynod ymarferol. Bydd y rhaglen hon yn cynnig achrediad ar sail gweithgareddau ac ymchwil weithredu, yn hytrach na dibynnu ar ddull academaidd, traddodiadol, a addysgir. Wrth gynllunio’r rhaglen, rydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr o amgylch y byd. Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan Michael Fullan, Athro Emeritws yn Sefydliad Astudiaethau Addysg Ontario, ym Mhrifysgol Toronto; Andy Hargreaves, Deiliad Cadair Thomas More Brennan yn Ysgol Addysg Lynch, Coleg Boston; Dylan Wiliam Athro Emeritws Asesu Addysgol, y Sefydliad Addysg; Ben Levin (Dirprwy Weinidog Addysg Talaith Ontario gynt), sydd ar hyn o bryd yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Toronto; a'r Athro David Reynolds o Ysgol Addysg Southampton, Prifysgol Southampton. 

Modiwlau datblygu, a fydd yn cael eu datblygu ar sail tystiolaeth gyfredol o ymarfer effeithiol yng Nghymru ac ar draws y byd, fydd elfennau allweddol y rhaglen Feistr. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar y tair blaenoriaeth genedlaethol a nodwyd gen i: sef llythrennedd; rhifedd; a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Cânt eu seilio hefyd ar dri maes craidd arall sydd wedi eu nodi fel blaenoriaethau ar gyfer ANG: anghenion dysgu ychwanegol; rheoli ymddygiad; ac ymarfer myfyriol.

Rydym wedi rhannu rhestr y chwe maes craidd mewn trafodaeth ag Estyn, sy'n cytuno mai’r rhain yw’r union feysydd y dylai athrawon ganolbwyntio arnynt wrth ddatblygu eu hymarfer.

Bydd adnoddau ar-lein o ansawdd uchel ar gael i gyd-fynd â’r cymhwyster Meistr. Byddant i’w cael ar wefan newydd, sy'n cael ei datblygu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion. Byddwn yn sicrhau bod yr adnoddau hyn o'r ansawdd uchaf, a'u bod yn seiliedig ar yr ymchwil ryngwladol ddiweddaraf. Bydd panel sicrhau ansawdd yn cael ei sefydlu i gefnogi'r gwaith o ddethol a dewis yr adnoddau hyn.

Mewn gwirionedd, nid yw'r cymhwyster Meistr ei hun mor bwysig â'r profiadau ar lefel Meistr y bydd yr athrawon yn eu cael gydol y rhaglen. Ymhlith y profiadau hynny bydd cyfle i weithio fel rhan o Gymuned Ddysgu Broffesiynol (PLC), a fydd yn canolbwyntio ar y chwe maes craidd a amlinellwyd uchod. Bydd yr athrawon hefyd yn cael tiwtor Meistr, a fydd yn eu hyfforddi a’u mentora am gyfnod.

Ar hyn o bryd, ni fydd y cymhwyster Meistr yn orfodol. Bydd y rhaglen yn cael ei gwerthuso'n fanwl cyn penderfynu a ddylai'r cymhwyster ddod yn orfodol.
 
Wedi i'r cymhwyster Meistr ar gyfer Sefydlu ac EPD gael ei gyflwyno ym mis Medi 2012, bydd cymwysterau Meistr yn cael eu datblygu ar gyfer ymarferwyr sydd wedi cyrraedd camau gwahanol yn eu gyrfa, ac ar gyfer y rheini sydd ag uchelgais i ymgymryd â rôl arwain yn benodol.

Llywodraeth Cymru fydd yn cynllunio'r cymhwyster Meistr, a hi fydd perchennog y cymhwyster. Ar hyn o bryd, mae’r broses o sefydlu panel o arbenigwyr i weithio gyda ni i gynllunio cynnwys y rhaglen yn mynd rhagddi. Cyn hir, byddwn yn cychwyn ar ymarfer tendro i benodi corff a fydd yn achredu'r rhaglen newydd, gyffrous, hon.