Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddoe cymeradwyodd y Comisiwn Ewropeaidd Gytundeb Partneriaeth y DU sy'n cynnwys Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-2020.

Dyma garreg filltir bwysig wrth i'r Comisiwn Ewropeaidd gadarnhau mai dyraniadau’r Gronfa Strwythurol i Gymru ar gyfer y cyfnod 2014-2020 fydd €2.4bn (tua £2bn), ac mae’n gosod y fframwaith ar gyfer cymeradwyo Rhaglenni Gweithredol Cronfa Strwythurol Cymru.

Yn sgil y gymeradwyaeth gan y Comisiwn, bydd €2bn (tua £1.6bn) yn mynd i Orllewin Cymru a'r Cymoedd a €400m (dros £325m) yn mynd i Ddwyrain Cymru. Mae'r pecyn cyfan yn ddigon tebyg i'r cyllid a ddarparwyd o dan y rownd bresennol o raglenni ar gyfer 2007-2013. Dyma lwyddiant mawr, o ystyried y byddai fformiwla'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dyrannu cyllid i'r DU wedi gweld gostyngiad o tua £400m i Gymru. Roeddem wedi gallu negodi gostyngiad cyfartal (5%) mewn termau real a dosbarthiad tecach o gyllid ar draws y DU, gan sicrhau'r cyllid mwyaf posibl ar gyfer ein rhanbarth llai datblygedig yn y Gorllewin a'r Cymoedd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £5m yn ychwanegol bob blwyddyn mewn arian cyfatebol i Orllewin Cymru a'r Cymoedd a Chernyw ac Ynysoedd Scilly oherwydd eu statws fel rhanbarthau llai datblygedig.

Cafodd rhaglenni Cronfa Strwythurol Cymru eu cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ar y cyfle cyntaf posibl ar yr un adeg â Chytundeb Partneriaeth y DU ar 17 Ebrill, ac rwy'n disgwyl i raglenni Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac ar gyfer Dwyrain Cymru, gael eu cymeradwyo'n fuan. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau cyflawni ein nodau a rennir ar draws y Llywodraeth ar gyfer swyddi a thwf economaidd cynaliadwy.  

Mae'r rhaglenni hyn wedi bod yn destun trafodaethau manwl â'r Comisiwn Ewropeaidd dros y misoedd diwethaf, a byddant yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd ac a ddatblygwyd gyda'n partneriaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Bydd y ffocws ar Ymchwil ac Arloesi, Cystadleurwydd Busnesau Bach a Chanolig, Ynni Adnewyddadwy ac Arbed Ynni, Cysylltedd a Datblygu Trefol, Trechu Tlodi drwy Gyflogaeth Gynaliadwy, Sgiliau ar gyfer Twf a Chyflogaeth a Chyrhaeddiad ymysg Pobl Ifanc.

Bydd y rhaglenni’n dechrau cyn gynted â phosibl, ac mae nifer o ymyriadau strategol ar ffurf prosiectau 'asgwrn cefn' yn cael eu hystyried gan WEFO ar hyn o bryd.

Byddaf yn eich diweddaru ymhellach mewn Datganiad Llafar ar 11 Tachwedd, ac mae dau ddigwyddiad i lansio'r rhaglenni wedi'u trefnu ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid ar 20 a 26 Tachwedd yn y Gogledd a'r De-ddwyrain.