Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref y llynedd, cadarnheais unwaith eto ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sector fferylliaeth gymunedol fel rhan hanfodol o wasanaeth gofal sylfaenol cryf yng Nghymru. Cadarnheais bryd hynny, ar adeg pan roedd fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr yn wynebu toriadau o dros 7%, nad oedd dim cynigion i leihau buddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol yma.

Ers imi wneud fy nghyhoeddiad, bu fy swyddogion yn ymgynghori â Fferylliaeth Gymunedol Cymru ar newidiadau i drefniannau contractiol i fferyllfeydd cymunedol sy’n cyflawni ein dyhead am wasanaeth fferylliaeth gymunedol sy’n bodloni anghenion y bobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Ymrwymais i wneud datganiad pellach i Aelodau’r Cynulliad unwaith bod y broses ymgynghori wedi dod i ben.

Rwy’n falch i gael rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi dod i gytundeb gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru am newidiadau i’r fframwaith contractiol i fferyllfeydd yn 2017-18 sy’n caniatáu i fferyllfeydd gynyddu eu cyfraniad yn y flwyddyn ariannol hon ac i ddarparu platfform y gellir ymestyn y cyfraniad hwnnw oddi arno ym mhellach yn y dyfodol.

Yn gryno, cyfanswm cyllid y contract fferylliaeth gymunedol yn 2017-18 fydd £144.3m. Mae’n cynnwys cynnydd o £2m yn y cyllid fydd ar gael i gefnogi comisiynu gwasanaethau cenedlaethol a lleol gwell oddi wrth fyrddau iechyd. Mae’n ychwanegu at y £3.9m a wariwyd yn barod gan fyrddau iechyd ar wasanaethau megis y gwasanaeth mân anhwylderau a brechiadau’r ffliw mewn fferyllfeydd, a bydd ar gael ar unwaith oddi mewn dyraniadau presennol y byrddau iechyd.

O fis Hydref, bydd £1m a £0.5m ar gael, eto oddi mewn dyraniadau presennol byrddau iechyd, i gefnogi gweithredu rhaglen ansawdd fferylliaeth ac i gefnogi gweithio ar y cyd rhwng fferyllfeydd a darparwyr gofal sylfaenol eraill drwy ein rhwydwaith o glystyrau gofal sylfaenol. Disgwyliaf i fanylion y cynlluniau hyn gael eu cadarnhau yn y misoedd i ddod.

Dyma newyddion da i fferyllfeydd a chleifion yng Nghymru.Er na allaf gadarnhau, ar hyn o bryd, lefel y cyllid fydd a gael i fferyllfeydd cymunedol ar ôl 2017-18, fy mwriad yw cynyddu lefel y cyllid ar gael i gefnogi comisiynu gwasanaethau cenedlaethol a lleol gwell gan £2m ychwanegol o leiaf yn 2018-19. Bydd yn caniatáu i’r gwasanaethau hyn â gwerth ychwanegol gael eu comisiynu yn fwy cyson. Er mwyn paratoi ar ei gyfer, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid yn 2018-19 a 2019-20 i ddarparu’r cymhwysiad TG Dewis Fferyllfa ym mhob fferyllfa yng Nghymru. Bydd cyllid ar gael hefyd oddi mewn yr holl gyllid contract fferylliaeth gymunedol i gefnogi datblygu gweithlu fferylliaeth gymunedol.

Cymeradwyaf gynrychiolwyr fferylliaeth gymunedol yng Nghymru yr ydym wedi gweithio gyda hwy i ddatblygu cynigion sy’n cael y gorau o fuddion fferylliaeth gymunedol, am sut y maent yn parhau i ymgymryd â’r trafodaethau hyn. Rwy’n hyderus mai’r dull hwn o weithio mewn partneriaeth yw’r un cywir, wrth inni barhau i drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.