Vaughan Gething, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cydnabyddaf fod sector fferylliaeth gymunedol cryf yn rhan annatod o wasanaeth gofal sylfaenol cryf. Yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae fferyllfeydd wedi wynebu toriadau sylweddol i’w cyllid, fferyllfeydd yn cau a methiant y Llywodraeth yn Lloegr i gydnabod gwerth y sector, yng Nghymru rydym wedi cynnal ein buddsoddiad yn yr asedau cymunedol hanfodol hyn.
Ers 2016, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW) i drawsnewid y trefniadau contractio ar gyfer fferyllfeydd cymunedol ac i gyflawni ein huchelgais am wasanaeth fferylliaeth gymunedol sy’n gallu bodloni anghenion dinasyddion yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol. Rydym wedi gwneud cynnydd arwyddocaol tuag at yr uchelgais hwnnw a fydd yn parhau yn 2019-20.
Yn gynharach eleni mynegodd CPW bryderon i mi fod y sector fferylliaeth gymunedol yn wynebu rhychwant o bwysau ariannol a rheoliadol a allai arafu’r raddfa drawsnewid pe baent heb eu datrys. Wedi ystyried yn ofalus, rwyf wedi dod i’r casgliad bod y pwysau chwyddiannol ar fferyllfeydd yn risg inni wireddu potensial fferylliaeth gymunedol i wella iechyd a llesiant. Rwyf yn falch felly i hysbysu Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi cytuno cynyddu cyllid fferylliaeth gymunedol gan £1.4 miliwn yn 2018-19. Bydd y cyllid ychwanegol hefyd yn sicrhau newidiadau pellach i’r trefniadau contractio yn 2019-20 i wella ansawdd, diogelwch meddyginiaethau ac argaeledd gwasanaethau newydd ac arloesol oddi wrth fferyllfeydd a fydd yn lleihau’r pwysau ar rannau eraill y GIG.