Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Y prynhawn yma, rwyf yn gosod yn y Cynulliad Cenedlaethol gopi o’r adroddiad a baratowyd yn sgil ymchwiliad gan Wasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru, WEFO a’r Gronfa Loteri Fawr, i’r modd y caiff AWEMA ei gyllido. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn nodi’r camau gweithredu a gymerir gan Lywodraeth Cymru ar sail yr adroddiad hwnnw.
Ar 19 Rhagfyr 2011, daeth honiadau i law Is-adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ynghylch materion rheoli yn AWEMA. Trannoeth, hysbyswyd AWEMA o’r penderfyniad i atal cyllid cyhoeddus o’r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb ac o WEFO: rhewodd y Loteri Fawr eu cyllid hwy hefyd.
Cymeradwywyd cylch gorchwyl yr ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r Loteri Fawr. Perthynas gontractiol sydd rhwng Llywodraeth Cymru ac AWEMA. Bwriad yr ymchwiliad oedd darparu cyngor ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y rheolaethau ariannol a’r prosesau llywodraethu o fewn AWEMA er mwyn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ar fyrder pa un a fyddai’n ddiogel parhau i roi cyllid cyhoeddus i AWEMA. Cydnabuwyd o’r dechrau’n deg bod angen dwyn i sylw Heddlu De Cymru a’r Comisiwn Elusennau yr honiadau bod unigolion wedi cyflawni gweithgareddau y gellid eu hystyried yn rhai troseddol neu a allai effeithio ar statws elusennol AWEMA. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw mewn cysylltiad cyson â nhw trwy gydol y broses ymchwilio.
Mae’r ymchwiliad wedi nodi methiannau sylweddol a sylfaenol yn fframwaith rheoli a llywodraethu AWEMA:
• Y trefniadau llywodraethu o ran y dulliau rheoli ac o ran Bwrdd Rheoli Ymddiriedolwyr AWEMA;
• Y rheolaethau a’r prosesau ariannol;
• Diffyg polisïau a gweithdrefnau allweddol; a
• Strwythur sefydliadol sy’n annigonol i gefnogi gweithrediadau AWEMA.
O ystyried y fframwaith rheoli cyfredol, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad na ellir rhoi unrhyw sicrwydd bod yna drefniadau priodol i ddiogelu a gwneud defnydd priodol o’r cyllid a roddir i AWEMA gan Lywodraeth Cymru, WEFO a chronfa’r Loteri Fawr.
Ar y sail hwn, hysbyswyd Dr Rita Austin, Cadeirydd AWEMA, y bydd y cyllid a gaiff AWEMA o’r Gronfa Hyrwyddo Cydraddoldeb yn dod i ben ar unwaith. Yn ogystal, rhoddwyd gwybod i Dr Austin bod tri chytundeb cyllid cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi’u diddymu hefyd. Bydd Tîm Archwilio a Gwirio WEFO’n cynnal adolygiad ar unwaith i weld a yw’r gwariant ar y prosiectau hyn yn gymwys i dderbyn cyllid yr UE a bydd yn disgwyl cydweithrediad llawn AWEMA i gwblhau’r gwaith. Cymerir camau i ystyried a ddylid ad-hawlio cyllid grant.
Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gydgysylltu’n agos â Heddlu De Cymru a’r Comisiwn Elusennau a bydd yn darparu pob cymorth posibl i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag AWEMA.
Wrth wneud y penderfyniadau hyn, ystyriwyd yn ofalus yr angen i amddiffyn, orau y gellir, y rheini sy’n cyfranogi yn y prosiectau sy’n derbyn cyllid cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae WEFO wedi cysylltu â chyd-noddwyr AWEMA er mwyn ystyried pa drefniadau amgen y gellid eu sefydlu. Mae’r cyd-noddwyr wedi mynegi eu parodrwydd a’u gallu i gydweithio â WEFO i sefydlu trefniadau a fydd yn diogelu sefyllfa’r bobl sy’n elwa ar brosiectau AWEMA. Byddaf yn sicrhau bod cyllid cyfatebol ar gael i’r cyd-noddwyr er mwyn helpu’r rhaglenni hyn i barhau.
Mae Prif Weinidog Cymru a minnau, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol, o’r farn bod angen cynnal adolygiad annibynnol llawn a thrylwyr o’r modd y darparwyd cyllid Llywodraeth Cymru i AWEMA.
Mae’n briodol mai Swyddfa Archwilio Cymru ddylai ymgymryd â’r adolygiad hwn a gallaf gadarnhau eu bod wedi cytuno i hynny. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wrthi’n cytuno ar gylch gorchwyl yr adolygiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.