Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw mae Canghellor y Trysorlys wedi cyflwyno Cyllideb y DU ar gyfer 2016. Dyma’r  drydedd gyllideb gan Lywodraeth y DU mewn deg mis ac unwaith eto mae’r sefyllfa ariannol wedi newid. Nid yn unig y mae twf GDP mewn termau real wedi cael ei ddiwygio i lawr, sy’n golygu mai’r adferiad economaidd sydd ohoni yw’r adferiad mwyaf araf i’w gofnodi erioed  ond hefyd mae gwariant cyhoeddus ledled y DU’n wynebu cyfres newydd o doriadau mewn gwariant.

Mae’r dull hwn o roi newidiadau ar waith fesul cam yn gwneud cynllunio ariannol yn fwy anodd ac yn gwneud dim i helpu i ddarparu’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sy’n angenrheidiol ar gyfer partneriaid a busnesau. Dim ond yr wythnos diwethaf, cytunodd y Cynulliad ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17, yn hwyrach nag arfer o gofio amseriad yr Adolygiad o Wariant.  Eto mae ein setliad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi newid unwaith eto.

Yn yr Adolygiad o Wariant fis Tachwedd diwethaf, nododd Llywodraeth y DU ei chynlluniau ar gyfer gwariant cyhoeddus tan ddiwedd y degawd gyda gostyngiadau real pellach i Gyllideb Cymru dros y pedair blynedd nesaf. Nid yw'r ychwanegiad bach yn ein Cyllideb eleni’n gwrthdroi'r chwe blynedd o galedi yr ydym wedi eu hwynebu nac yn gwrthbwyso’r cyfnod pellach o gyfyngiadau ariannol parhaus. Mae Cyllideb heddiw’n golygu ein bod wedi cael £357.6 miliwn yn ychwanegol at ein cyllideb refeniw a £22.5 miliwn yn ychwanegol at ein cyllideb gyfalaf dros y pedair blynedd nesaf. Er gwaethaf y codiadau bach hyn mewn arian parod yn ein setliad, bydd ein cyllideb yn dal 3% yn is mewn termau real erbyn 2019-20 nag ydyw heddiw.

Er hynny, un ochr o’r geiniog yn unig yw cyhoeddiad heddiw. Er bod y Canghellor wedi cynnwys yr arbedion o £3.5 biliwn yn 2019-20 mae ei ragolygon ariannol wedi cynnwys yr arbedion yn 2019-20 yn ei ragolygon ariannol mae wedi methu â chyhoeddi sut y bydd yn rhoi’r toriadau hyn ar waith. Gallai hyn olygu y gallai’r symiau canlyniadol cadarnhaol a gawsom heddiw gael eu dileu mewn digwyddiad cyllidol yn y dyfodol, gan greu mwy o ansicrwydd  a chan gymhlethu’r her sydd o’n blaenau.

Rydym yn nodi’r cyhoeddiad i leihau'r £1.2 biliwn ar wariant ar y Taliad Annibyniaeth Bersonol yn 2020-21 a hynny trwy newidiadau i’r meini prawf asesu ar gyfer cymhorthion a chyfarpar. Rydym yn ymwybodol y bydd y mesur hwn yn effeithio ar 640,000 o bobl anabl ym Mhrydain Fawr. Rydym yn arbennig o bryderus am effaith hyn gan fod ein hymchwil ar y newidiadau i drethi a budd-daliadau a gyhoeddwyd cyn Cyllideb 2016, i’w rhoi ar waith dros y dros y pedair blynedd nesaf, eisoes yn dangos bod aelwydydd â pherson anabl yn colli llawer mwy na'r aelwydydd heb berson anabl. Bydd y newid hwn yn ychwanegu at y colledion hynny, sydd dros £600 y flwyddyn ar gyfartaledd ar gyfer pobl anabl. Byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i liniaru effeithiau'r toriadau mewn lles ar y rheini yr effeithir mwyaf arnynt yng Nghymru.

Cyhoeddwyd rhai pwyntiau i'w croesawu yn y Gyllideb. Ddoe, fe wnaethom gytuno ar Fargen Ddinesig sy'n werth £1.2 biliwn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a fydd yn hwb economaidd enfawr ledled y rhanbarth a phob rhan o Gymru. Rydyn ni wastad wedi dweud bod Bargen Ddinesig lwyddiannus ar gyfer Caerdydd yn dangos ein hygrededd, ac mae'n agor y drws i Fargeinion pellach i Gymru, gan gynnwys Abertawe a'n huchelgeisiau ar gyfer y Gogledd. Mae ymrwymiad y Canghellor heddiw i ddechrau trafodaethau am Fargen Ddinesig i Abertawe ac i archwilio'r posibilrwydd o gael Bargen ar gyfer Twf i'r Gogledd yn rhagor o newyddion da i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU a'r Rhanbarthau i wireddu'r uchelgeisiau hyn.

Cyn y Gyllideb, galwais hefyd am benderfyniad hirddisgwyliedig ar nifer o faterion pwysig.  Rydym wedi bod yn dadlau ers tro yr achos dros ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr, cael gwared ar dollau Pont Hafren a rhoi'r golau gwyrdd i brosiect braenaru Morlyn Llanw Bae Abertawe. Byddai'r holl gynigion hyn yn rhoi hwb economaidd pwysig i Gymru. Mae'r newyddion heddiw y bydd Tollau Pont Hafren yn cael eu haneru yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond gallai Llywodraeth y DU fynd gam ymhellach i'w diddymu'n gyfan gwbl. Rwy'n siomedig nad oes cynnydd wedi'i wneud ar ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr na Morlyn Llanw Bae Abertawe. Byddaf yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pendant ar y materion hyn.

Fel Llywodraeth, rydym bob amser wedi bod yn glir mai dewis yw cyni a'n bod yn cynnig ffordd wahanol a chlir ymlaen.  Mae ein Cyllideb "Cymru Decach, Cymru Well – Buddsoddi at y Dyfodol" yn cefnogi ein blaenoriaethau i Gymru – sef iechyd a gwasanaethau iechyd, twf a swyddi, gwella cyrhaeddiad addysgol, cefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig a threchu tlodi. Dyma ffordd nodedig Cymru o fynd i'r afael â chyni, sef drwy amddiffyn a gwella'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.  

Mae ein hanes o gyflawni mewn cyfnodau ariannol anodd yn siarad cyfrolau. Ni fyddwn yn tynnu ein troed oddi ar y sbardun. Byddwn yn parhau i gynnig dewis gwahanol i gyni – sef buddsoddi yn nyfodol Cymru.