Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog drod Gyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw wedi cyhoeddi cynigion Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Mae'r Gyllideb ddrafft yn nodi’r cynlluniau gwario ar gyfer 2020-21.

Oherwydd y ffactorau allanol sydd wedi dylanwadu ar amseriad y gyllideb eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi trefniadau eithriadol ar waith o ran proses y gyllideb, a hynny gyda chytundeb Pwyllgor Busnes a Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi gyda'i gilydd y cynlluniau gwario strategol ar gyfer refeniw a chyfalaf, a chynigion ar drethiant a benthyca, yn ogystal â chynigion portffolio manwl y gyllideb. 

Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar am y Gyllideb ddrafft yn y Cynulliad ar 7 Ionawr 2020.

Mae'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

  • Cynigion y Gyllideb Ddrafft 
  • Dogfen Naratif y Gyllideb ddrafft, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • Cyllideb Ddrafft 2020-21 - taflen i blant a phobl ifanc
  • Cynllun Gwella'r Gyllideb

Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

  • Adroddiad y Prif Economegydd
  • Adroddiad ar Bolisi Trethi Cymru 2019
  • Golwg ar Drethi Cymru - asesiad annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'm cynigion trethiant