Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Mawrth, cyhoeddais Gyllideb Ddrafft 'Blaenoriaethau i Gymru' 2015-16 a phecyn buddsoddi cyfalaf gwerth cyfanswm o dros £100m i helpu i gyflawni blaenoriaethau ein Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae buddsoddi mewn seilwaith yn parhau i fod yn elfen allweddol o'n hymateb i'r cyfnod ariannol anodd. Mae'n adlewyrchu ein ffocws parhaus ar hybu twf a chefnogi swyddi.

Ers Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant yn 2010, mae ein cyllideb gyfalaf wedi wynebu cyfyngiadau sylweddol. Erbyn 2015-16, bydd y swm sydd ar gael ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf 30% yn is nag yr oedd ar ei uchaf yn 2009-10. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi mwy o gyfyngiadau ar sut rydym yn defnyddio'r cyllid. Yn 2015-16, mae 14% o'n cyllideb gyfalaf wedi'i glustnodi ar gyfer trafodion ariannol i’w ddefnyddio ar gyfer gwneud benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti yn unig, a bydd rhaid ei ad-dalu i'r Trysorlys.
Er gwaetha'r toriadau i'n cyllideb gyfalaf, rydym wedi parhau i wneud ein gorau i sicrhau bod buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru yn darparu’r cyfleoedd a'r manteision mwyaf posibl, nid yn unig er mwyn cefnogi ein blaenoriaeth i hybu twf a swyddi ond hefyd er mwyn sicrhau manteision ehangach. Drwy'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru rydym wedi manteisio ar bob cyfle i fuddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth sydd wedi helpu i ddarparu tai fforddiadwy newydd, cyfleusterau iechyd newydd, ysgolion newydd ac wedi rhoi hwb pwysig i economi Cymru.

Mae gwneud buddsoddiad cyfalaf mewn tai yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd y cyhoeddiad yr wythnos hon bod £37m yn ychwanegol ar gael dros y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf, yn cael effaith uniongyrchol ar ein nod o ddarparu tai mwy fforddiadwy o well ansawdd drwy helpu landlordiaid cymdeithasol i brynu safleoedd ac adnewyddu eiddo nad oedd yn cael ei ddefnyddio. Gwyddom fod buddsoddi mewn tai yn cael effaith ehangach, fel y gwelais â'm llygaid fy hun ar Daith y Gyllideb ledled Cymru yn ddiweddar. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, drwy sicrhau mwy o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Drwy ddarparu cartref cynnes a lle i astudio, bydd y buddsoddiad hwn yn cyfrannu at wella cyraeddiadau addysgol disgyblion. Mae'r buddsoddiad hwn yn ganolog i'n dull ataliol drwy fuddsoddi heddiw i osgoi problemau yn y dyfodol.

Mae'r cyllid ychwanegol ar gyfer tai a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn golygu, ers 2012, drwy ddefnyddio cyllid arloesol a dyraniadau cyfalaf ychwanegol, ein bod wedi rhoi hwb uniongyrchol o bron £600m i fuddsoddiadau mewn tai ar draws amrywiaeth o fentrau tai yng Nghymru, gwerth dros £1.5bn i economi Cymru.

Fel rhan o Gytundeb dwy flynedd y Gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, rwyf hefyd wedi dyrannu £40m yn ychwanegol o gyfalaf traddodiadol yn 2015-16 i gefnogi ein blaenoriaeth o wella rhwydweithiau trafnidiaeth ledled Cymru. Mae'r buddsoddiad hwn yn cynnwys £30m i gyflymu'r broses o ddarparu Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae yng Nghaerdydd a £10m ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth allweddol yn y Gogledd. 
Gan ystyried yr holl fuddsoddiadau hyn gyda'i gilydd, bydd y cyllid ychwanegol hwn o £100m yn cefnogi’r broses o ddarparu cynlluniau gwerth cyfanswm o dros £1bn a helpu i greu neu i gadw tua 1,400 o swyddi. Mae hefyd yn golygu y bydd buddsoddiadau drwy ein Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru bellach yn creu tua £3.5bn o fuddsoddiad ychwanegol ar gyfer economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Mae manylion y pecyn £100m wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1.