Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. 

Mae Cyllideb Derfynol 2025-26 yn adeiladu ar y cynlluniau gwario yr ydym eisoes wedi'u nodi yn y Gyllideb Ddrafft a gyflwynwyd ar 10 Rhagfyr 2024. 

Mae dogfennau'r Gyllideb Derfynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys:

  • Cynnig y Gyllideb Flynyddol
  • Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol
  • Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (tablau BEL)
  • Tablau sy'n Ategu'r Cynlluniau Gwario.
  • Llif Prosiectau Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (Chwefror 2025)

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd wedi diweddaru eu hasesiad annibynnol o’n cynigion ar gyfer trethi – Rhagolwg Trethi Cymreig, diweddariad Chwefror 2025. Mae dolen i’r ddogfen ar gael ochr yn ochr a’r Dogfennau Cyllidebol.

Cynhelir y ddadl a'r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 4 Mawrth.