Mark Drakeford AC, Prif Weinidog
Rwyf heddiw wedi gosod Cyllideb derfynol 2019-20 Llywodraeth Cymru.
Mae’r Gyllideb derfynol yn cymryd i ystyriaeth y dyraniadau cyllidol ychwanegol a wnaed yn dilyn Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 29 Hydref. Mae’r Gyllideb derfynol hefyd yn gwneud dyraniadau ychwanegol i gefnogi’r blaenoriaethau yn ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.
Mae dogfennau’r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r dogfennau’n cynnwys:
- Cynigion y Gyllideb Flynyddol
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
- Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol
- Gwaith Craffu a Sicrhau Annibynnol ar Ragolygon Trethi Datganoledig i Gymru – Prifysgol Bangor, Adroddiad Terfynol Mis Rhagfyr 2018.
Rwy’n cyhoeddi’r Gyllideb derfynol yn ystod y toriad er mwyn i Aelodau’r Cynulliad a’n partneriaid cyflenwi gael amcan cyn gynted â phosibl o’r cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd y Gweinidog dros Gyllid yn ateb cwestiynau'r Aelodau ar y Gyllideb derfynol yn ystod y ddadl ar 15 Ionawr.