Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ar 1 Chwefror, cyflwynais y Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2011-12 yn y Cynulliad Cenedlaethol.

<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" /> 

Yn fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar y cyd â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2011-12, fe gyfeiriais at ddwy ddogfen bwysig a fyddai’n cael eu cyhoeddi yr wythnos hon mewn perthynas â’n cynlluniau gwariant. 

 

Yn gyntaf, fe ddywedais y byddem yn cyhoeddi asesiad llawn o effaith ein cynigion ar gyfer y Gyllideb ar gydraddoldeb.  Dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb fel rhan o broses y Gyllideb. Mae hyn yn mynd gam ymhellach na’r hyn y mae gofyn i ni ei wneud yn statudol ac mae’n arwydd o ba mor benderfynol ydym ni i barhau i gryfhau a gwella yn y maes hwn.

 

Yn ail, yng nghyd-destun y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi, fe gadarnheais y byddem yn cyhoeddi mwy o wybodaeth yr wythnos hon ar ddatblygu’r fframwaith mesur a fydd yn dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud ar draws y sector cyhoeddus i wneud arbedion.