Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Flynyddol 2011-12 yn y Cynulliad Cenedlaethol, cyllideb sy'n cynnig ymateb penderfynol, cadarn a chyfrifol i her y setliad anodd.
Fe wnaethom fabwysiadu dull unigryw Gymreig wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer y Gyllideb, ac rydym wedi cydweithio ag amrywiaeth eang o bartneriaid i sicrhau bod ein cynlluniau gwariant yn adlewyrchu anghenion, amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru. Mae'r cydweithio hwn wedi rhoi sylfaen gadarn inni, ac mae ein cynigion wedi'u gosod yng nghyd-destun blaenoriaethau clir dinasyddion Cymru - gwarchod iechyd, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, sgiliau a'r manteision i bawb, yn ogystal â chefnogi'r adferiad economaidd.
Cafwyd craffu helaeth ar ein cynigion ers iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd. Mae'r dystiolaeth a'r adborth yr ydym wedi'u cael ers hynny yn cadarnhau ein bod wedi gwneud y dewisiadau a'r penderfyniadau cywir ar gyfer pobl Cymru a'r economi. Gan fod amrywiaeth eang o randdeiliaid wedi cefnogi ein cynigion, prin yw'r newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Derfynol.
Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys £56.77 miliwn yn ychwanegol at y cynigion y gwnaethom eu cyhoeddi ym mis Tachwedd. Fis Mehefin diwethaf, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ostyngiad refeniw o £113.5 miliwn a gostyngiad cyfalaf o £49 miliwn yng nghyllideb Cymru, fe wnaethom ddweud ein bod yn credu eu bod yn gwneud toriadau rhy fawr yn rhy gynnar - ac mae'r ffigurau diweddaraf ar dwf economaidd a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn cyfiawnhau'r farn honno. Fe wnaethom ddweud, fodd bynnag, y byddem ni'n bartner cyfrifol wrth helpu i ostwng y diffyg ariannol.
Fe gyhoeddais ym mis Gorffennaf y byddem yn dod o hyd i'r holl ostyngiad cyfalaf a osodwyd arnom yn 2010-11 drwy ddefnyddio stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn. Ar yr un pryd, eglurais y byddem yn dod o hyd i gymaint o'r gostyngiad refeniw ag y gallem eleni, heb osod pwysau niweidiol ar wasanaethau. Roedd ein setliad ariannol yn yr Adolygiad o Wariant yn rhagdybio y byddem yn canfod 50% o'r arbedion refeniw eleni.
Mewn gwirionedd, rydym yn awr wedi gallu gwneud gostyngiadau gwerth y swm llawn o £113.5 miliwn eleni. Rydym wedi gallu gwneud hynny heb dorri gwasanaethau, ond yn hytrach drwy reolaeth ariannol ofalus. Drwy ddod o hyd i'r holl ostyngiad refeniw eleni, bydd gennym £56.77 miliwn yn ychwanegol yn 2011-12 o'i gymharu â'r sefyllfa a ragdybiwyd yn y Gyllideb Ddrafft. Mae hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd inni at y dyfodol, a'r cyfle i liniaru'n rhannol ar y gostyngiad mawr iawn yn ein cyllideb cyfalaf. Rydym wedi penderfynu defnyddio'r £56.77 miliwn a ryddhawyd yn sgil ein rheolaeth ariannol ofalus eleni er mwyn lleihau effaith y gostyngiad yn y gyllideb cyfalaf yn 2011-12.
Rydym hefyd yn gwybod y bydd ein hadnoddau heb fod yn arian parod dan fwy o bwysau yn y dyfodol. Er mwyn cydnabod hyn yn benodol, fe wnaethom gynnal adolygiad yn ddiweddar o'r cyllidebau heb fod yn arian parod a'r rhagolygon gwariant dros y tair blynedd nesaf. Yn y Gyllideb Ddrafft, cafodd y cyllidebau heb fod yn arian parod eu cadw ar lefel 2010-11, tan i ganlyniad yr adolygiad hwnnw gael ei gyhoeddi. Mewn ymateb i'r pwysau penodol y tynnodd yr adolygiad sylw atynt, gwnaed rhai newidiadau i'r cyllidebau heb fod yn arian parod ers y Gyllideb Ddrafft. Er nad yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar y swm sydd ar gael i ni i'w wario, maent yn caniatáu i ni ad-drefnu ein cyllidebau er mwyn sicrhau bod gan yr Adrannau yr adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu rhaglenni.
Mae'r newidiadau eraill i gyllidebau'r Adrannau yn gyfyngedig, ac yn cynnwys addasiadau i adlewyrchu ein blaenoriaethau, a'u cyflawni'n well.
Rydym hefyd wedi asesu effaith ein penderfyniadau ar gydraddoldeb drwy gydol y broses er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau gwariant yn sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i gwrdd ag anghenion y bobl a’r cymunedau hynny sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant.
Byddwn yn cyhoeddi asesiad llawn o effaith ein cynlluniau gwariant ar gydraddoldeb yr wythnos nesaf. Nid dim ond wrth lunio'r Gyllideb Derfynol yr ydym yn ystyried materion cydraddoldeb, fodd bynnag. Byddwn yn gwneud mwy o waith, lle bo’n briodol, i ystyried effaith elfennau manwl gwariant a darpariaeth o fewn y dyraniadau a gyhoeddir yn y Gyllideb Derfynol ar gydraddoldeb.
Rydym wedi ymateb i'r hinsawdd ariannol sydd ohoni gyda rhaglen effeithlonrwydd ac arloesi, a byddwn yn parhau i ddatblygu'r agenda hon gyda'n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus, ein hundebau llafur ac yn ehangach. Bydd y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â ffyrdd mwy effeithlon o weithio. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yr wythnos nesaf ar ddatblygu'r fframwaith mesur fydd yn dangos y cynnydd y gellir ei wneud ar yr agenda effeithlonrwydd ac arloesi.
Er mwyn cefnogi'r broses o symud i ddulliau darparu gwasanaethau mwy effeithlon ac arloesol, rydym hefyd wedi gwneud darpariaeth ar gyfer cyllid cymorth trosiannol fel rhan o’n Cronfeydd Wrth Gefn. Y fenter gyntaf y bydd y gronfa yn ei chefnogi yw gwell gwasanaeth newid gyrfa ar gyfer y rheini sy'n gadael y sector cyhoeddus. Mae'r fenter hon yn cael ei datblygu drwy'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi ac yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun ReAct, sydd wedi helpu miloedd o bobl y mae'r dirwasgiad wedi effeithio arnynt i ennill cymwysterau a gwella eu cyfleoedd yn y farchnad lafur.
Rydym yn gwybod nad dyma ben draw'r gwaith, ac mai'r her go iawn yw defnyddio'r cyllidebau llai hyn i barhau i gyrraedd y safonau uchel y mae hawl gan bobl Cymru eu disgwyl. Ni allwn wneud hynny drwy ddilyn yr un hen rigol. Mae gan bob un ohonom ei ran wrth gydweithio er mwyn penderfynu sut i ymateb i'r her sydd o'n blaenau.
Mae'r Gyllideb hon yn dangos sut yr ydym ni, fel Llywodraeth gyfrifol, yn arwain y ffordd wrth gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac adfywio economi Cymru.