Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Mae hon yn gyllideb ar gyfer dyfodol mwy disglair sy'n ein galluogi i gyflawni ein blaenoriaethau, diogelu a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a rhoi Cymru ar ben ffordd tuag at dwf.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £26bn yng Nghymru drwy'r Gyllideb Ddrafft hon, gan gyferbynnu'n llwyr â'r cyfnod parhaus o setliadau ariannol heriol yr ydym wedi'u profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn nodi cynlluniau gwario strategol a manwl ar gyfer adnoddau a chyfalaf, yn ogystal â’n cynlluniau ar gyfer trethiant a benthyca. Byddaf yn traddodi datganiad llafar gyda rhagor o fanylion yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw.
Mae pob un o'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cynigion y Gyllideb Ddrafft
- Dogfen naratif y Gyllideb Ddrafft
- Asesiad Effaith Integredig Strategol
- Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
- Tablau sy'n ategu'r cynlluniau gwario (fformat ODS)
- Tabl sy’n dangos costau gweithredu deddfwriaeth
- Canllaw Cyllideb Ddrafft 2025-26
Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:
- Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2024
- Y Cynllun Cyllid Seilwaith 2025-26
- Cynllun Gwella'r Gyllideb 2024
- Adroddiad ar Bolisi Trethi: Rhagfyr 2024
- Canllawiau cyflym i esbonio effaith newidiadau treth
- Dadansoddiad dosbarthiadol o wariant cyhoeddus datganoledig yng Nghymru 2025 i 2026
- Hyperddolen i adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar ei rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig Cymru.