Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddais gynigion Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22, sy'n nodi ein cynlluniau i ddiogelu, adeiladu a newid i greu Cymru fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Mae'r Gyllideb ddrafft yn nodi cynlluniau gwariant strategol ar gyfer refeniw a chyfalaf, a threthiant a benthyca; yn ogystal â chynigion manwl ar gyfer y portffolios yng nghyllideb 2021-22.

Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar am y Gyllideb ddrafft yn Senedd Cymru ar 12 Ionawr 2021.

Mae'r dogfennau a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

  • Cynigion y Gyllideb Ddrafft
  • Dogfen Naratif y Gyllideb ddrafft, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol
  • Llinellau Gwariant yn y Gyllideb
  • Cyllideb Ddrafft 2021-22 - taflen
  • Cynllun Gwella'r Gyllideb
  • Ailddatgan Cyllideb Derfynol 2020-21

Mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddir heddiw, ar gael hefyd:

  • Adroddiad y Prif Economegydd
  • Dadansoddiad Dosbarthiadol o Wariant Cyhoeddus yng Nghymru
  • Golwg ar Drethi Cymru - asesiad annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'm cynigion trethiant