Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth baratoi Cyllideb ddrafft 2019-20, roedd y Cabinet yn sylweddoli bod yr awdurdodau lleol yn wynebu pwysau gwirioneddol ac roeddem yn gadarn yn ein hymrwymiad i wneud popeth a allem i’w gwarchod rhag effeithiau gwaethaf polisi cyni niweidiol Llywodraeth y DU, sydd yn ei nawfed flwyddyn. 

Pan basiwyd Cyllideb derfynol 2018-19 gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Ionawr 2018, roedd yr awdurdodau lleol yn wynebu gostyngiad o 1% yn y grant cynnal refeniw ar gyfer 2019-20 – roedd hynny’n gyfystyr â gostyngiad ariannol o £43m.

Fe wnaethom ni weithio’n galed wrth baratoi Cyllideb ddrafft 2019-20 i leihau’r gostyngiad hwnnw yng nghyllid y grant cynnal refeniw i lai na £15m (sy’n gyfystyr â gostyngiad o 0.3% yn y grant). Sefydlwyd ‘llawr’ hefyd er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o mwy na 1% yn ei gyllid.

Roedd y Gyllideb ddrafft hefyd yn darparu £84m o refeniw ychwanegol ar ffurf grantiau arbennig a ffrydiau ariannu eraill i lywodraeth leol, ar wahân i’r grant cynnal refeniw. 

Yn gyffredinol, roedd hwn yn dal yn setliad heriol i’r awdurdodau lleol ac fe wnaethom ymrwymiad y byddai llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer unrhyw gyllid ychwanegol yn dilyn Cyllideb yr Hydref gan Lywodraeth y DU fis diwethaf. Mae llywodraeth leol wedi bod yn ganolog i’n hystyriaethau wrth inni fynd ati, yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, i weithio drwy fanylion Cyllideb yr Hydref y DU a’r goblygiadau o ran ein cynigion gwario.

Heddiw, gallaf gadarnhau pecyn o gynigion cyllido ychwanegol ar gyfer lywodraeth leol, a fydd yn cael eu cynnwys yn y Gyllideb derfynol.

Yn 2018-19:

  • Pecyn untro o hyd at £6m o refeniw a chyfalaf i helpu tuag at y costau atgyweirio a glanhau yn dilyn Storm Callum;
  • £4m o refeniw ychwanegol tuag at bwysau gofal cymdeithasol yn 2018-19. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o £14m o gyllid ychwanegol wedi’i roi ar gyfer pwysau gofal cymdeithasol yr hydref hwn – sef y swm canlyniadol llawn o’r cyllid gofal cymdeithasol “brys” a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr yng Nghyllideb hydref y DU;
  • £7.5m o refeniw i helpu awdurdodau lleol â phwysau’r costau sydd ynghlwm wrth roi’r dyfarniad cyflog i athrawon ar waith; a
  • £50m o gyfalaf ychwanegol ar gyfer cronfa cyfalaf cyffredinol yr awdurdodau lleol – dyma randaliad cyntaf y £100m o gynnydd i’r gronfa cyfalaf cyffredinol dros dair blynedd.

Yn 2019-20:

  • £13m yn ychwanegol i’r grant cynnal refeniw i roi setliad arian gwastad i lywodraeth leol;
  • £1.2m i godi’r llawr cyllido fel nad oes unrhyw awdurdod lleol yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5%;
  • £7.5m arall i helpu awdurdodau lleol tuag at bwysau’r costau sydd ynghlwm wrth roi’r dyfarniad cyflog i athrawon ar waith;
  • Dyrannu’r swm canlyniadol llawn o £2.3m o Gyllideb hydref y DU ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant – i helpu i atal plant rhag gorfod mynd i ofal; a
  • £30m o gyfalaf ychwanegol ar gyfer cronfa cyfalaf cyffredinol yr awdurdodau lleol - dyma ail gyfandaliad y £100m o gynnydd i’r gronfa cyfalaf cyffredinol dros dair blynedd.

Yn 2020-21:

  • £20m o gyfalaf ychwanegol i gronfa cyfalaf cyffredinol yr awdurdodau lleol - dyma drydydd cyfandaliad y £100m o gynnydd i’r gronfa cyfalaf cyffredinol dros dair blynedd.   

Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn yn creu pecyn sy’n werth £141.5m o refeniw a chyfalaf ychwanegol i lywodraeth leol dros dair blynedd (2018-19 i 2020-21).

Byddwn hefyd:

  • Yn parhau i drafod gyda llywodraeth leol er mwyn bwrw ymlaen â chronfa fuddsoddi newydd mewn tai er mwyn rhyddhau safleoedd mawr ar gyfer eu datblygu, gyda chyfuniad o gyfalaf a chyfalaf trafodiadau ariannol o hyd at £15m;
  • Yn cynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cyfalaf o dan Fand B y Rhaglen Ysgolion ac Addysg ar gyfer yr 21ain Ganrif; a
  • Yn ysgrifennu at y Canghellor, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ailadrodd ein galwadau ar i Lywodraeth y DU ariannu’n llawn y cynnydd yn y costau i gyflogwyr yn sgil newidiadau i bensiynau.

Bydd y pecyn ychwanegol arfaethedig ar gyfer llywodraeth leol yn 2019-20 a 2020-21 yn cael ei adlewyrchu yng Nghyllideb derfynol 2019-20, sydd i’w chyhoeddi ar 18 Rhagfyr ac a fydd yn amodol ar gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.