Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016



Pleser i mi heddiw yw cyhoeddi’r trydydd Asesiad o Effaith ein Cyllideb ar Gydraddoldeb.

Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyhoeddi Asesiad o Effaith ei Chyllideb ar Gydraddoldeb, a hynny ar gyfer Cyllideb 2011-12.  Yr her o hyd yw sicrhau bod yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn berthnasol a thryloyw ac yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd yr ydym yn blaenoriaethu ein Cyllideb ar gyfer pobl Cymru.

Er mwyn cryfhau’r agwedd hon ar ein gwaith, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i gynnal Ymchwiliad Gwerthfawrogol o’n dull o fynd ati i asesu effeithiau ein cyllideb ar gydraddoldeb. Bydd yr Ymchwiliad, a fydd yn cyhoeddi ei adroddiad cyn hir, yn ceisio darganfod a oes angen gwneud rhagor o waith er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i fod mewn sefyllfa hyd yn oed yn well i gyflawni ei dyletswyddau cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus.

Yn fy rôl fel Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, gyda chyfrifoldeb am Gydraddoldeb, rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod, fel Llywodraeth, yn defnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael inni i sicrhau ein bod yn hybu cydraddoldeb ac nad ydym yn effeithio’n wael ar y bobl hynny yn ein cymunedau a ddylai gael eu hamddiffyn wrth inni ddatblygu polisïau a dyrannu cyllid.

Er mwyn cryfhau a datblygu ein harbenigedd ym maes cydraddoldeb, rwy’n falch o gyhoeddi ein bod yn sefydlu Grŵp Cynghori Cyllidebol ar Gydraddoldeb. Bydd y grŵp yn ceisio hybu a chryfhau’r pwyslais ar nodi a deall natur anghydraddoldeb yng Nghymru. Rhagwelir y bydd gwaith y grŵp hefyd yn gwella dealltwriaeth gyffredinol y sector cyhoeddus yng Nghymru o’r hyn y mae angen iddo ei gadw mewn cof wrth ystyried ei gyllidebau.

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru yn cael y cyfle i gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru. Rydym am weld cymdeithas sy’n gwerthfawrogi pobl fel unigolion, lle ceir amrywiaeth a chydraddoldeb, a phawb yn cael ei barchu. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau, uwchlaw dim, y bydd cydraddoldeb yn ystyriaeth sylfaenol wrth inni ddatblygu ein blaenoriaethau o ran polisïau a chyllidebau.