Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016



Rwyf heddiw wedi cyhoeddi cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.

Bydd cynigion y Gyllideb Ddrafft, dogfen naratif y Gyllideb Ddrafft, ynghyd â thablau cyllidebol manwl, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Trwy ein Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi, rydym yn dyrannu £175m yn rhagor o fuddsoddiad cyfalaf yn y Gyllideb Ddrafft hon i gefnogi prosiectau seilwaith allweddol ledled Cymru. Drwy hynny byddwn yn creu neu’n cefnogi mwy na 3000 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r cynlluniau gwariant hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i greu economi fwy llewyrchus, gwasanaethau cyhoeddus gwell a mwy effeithlon, a chanlyniadau gwell ar gyfer Cymru.