Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddais Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2014-15 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau rhwng Adrannau Llywodraeth Cymru a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.