Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2024.
Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraetth y DU.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 18 Mawrth.