Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2024-25 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror.
Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU.
Bydd y Gyllideb Atodol hon hefyd yn addasu Prif Grwpiau Gwariant Llywodraeth Cymru i adlewyrchu portffolios diweddaraf y Cabinet.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 22 Hydref.