Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r  newidiadau cyllidebol ers Cyllideb  Derfynol 2022-23 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.   

Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen oherwydd effaith digwyddiadau cyllidol Llywodraetth y DU.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.