Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r  newidiadau cyllidebol ers Gyllideb  Derfynol 2021-22 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.   

Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen gan gynnwys cyfran Cymru o’r cyllid a ddyrannwyd i fynd i’r afael â’r pandemig yn Lloegr. Mae’r gyllideb wedi’i hailstrwythuro i adlewyrchu’r newidiadau i’r portffolios Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 13 Mai.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.