Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw adlewyrchu'r  newidiadau cyllidebol ers Ail Gyllideb  Atodol 2020-21 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2020 ac a ailddatganwyd ym mis Rhagfyr 2020 yn unol â newidiadau i bortffolios gweinidogol.   

Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen gan gynnwys cyfran Cymru o’r cyllid a ddyrannwyd i fynd i’r afael â’r pandemig yn Lloegr.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid a bydd dadl arni yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 9 Mawrth.