Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2019-20 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2019.

Mae’n nodi nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, diwygiadau i ffynonellau cyllid, ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.

Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 12 Chwefror a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Mawrth.