Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Mae Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2018.
Mae’n nodi nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, diwygiadau i ffynonellau cyllid, ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 14 Chwefror a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth.