Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddais Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. 


Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw alinio strwythurau cyllidebol 2016-17 â’r newidiadau ym mhortffolios a chyfrifoldebau’r Gweinidogion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin, a dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2016-17 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth. 


Mae’n nodi hefyd nifer cyfyngedig o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn i gadarnhau ymrwymiadau a wnaed gan y Cynulliad diwethaf, ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.