Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddais Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau rhwng Adrannau Llywodraeth Cymru a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.