Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid
Heddiw, fe gyhoeddais Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2013-14 a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau rhwng Adrannau Llywodraeth Cymru a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.