Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, bu i ni gyhoeddi Cyllideb Flynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, sy’n cyflwyno cyllideb gyfrifol a chredadwy ar gyfer twf a swyddi sy’n ein galluogi i gymryd camau gweithredu i hybu hyder economaidd a helpu’r bobl fwyaf agored i niwed trwy’r cyfnod ariannol anodd hwn.
Mae Banc Lloegr yn cydnabod bod hwn yn un o’r argyfyngau ariannol mwyaf difrifol a welwyd erioed yn y DU gyda thystiolaeth gan OBR a chydnabyddiaeth gan y Canghellor fod economi’r DU yn dal yn wan. Mae’r heriau hyn yn parhau ac maent wedi llywio ein cynlluniau gwario.
Ers i ni gyhoeddi ein cynigion ym mis Hydref, craffwyd yn fanwl ar ein cynlluniau gwario. Rydym wedi gweithio’n agos ag ystod o bartneriaid sydd â buddiant. Rydym wedi ystyried y dystiolaeth a’r adborth a gafwyd gan Bwyllgorau’r Cynulliad yn ogystal â chan bartneriaid mewn llywodraeth leol, busnes, yr undebau llafur a’r Trydydd Sector. Rydym wedi croesawu’r gefnogaeth yr ydym wedi’i chael i’r pwyslais yr ydym wedi’i roi ar dwf a swyddi.
Yn ystod ein trafodaethau eang ar y Gyllideb, un o’r pryderon a ddaeth i’r amlwg oedd y cymorth sydd ar gael i’n disgyblion mwyaf difreintiedig. Y cymorth hwn oedd prif elfen cytundeb cyllidebol a sicrhawyd gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ogystal â’r pecyn ysgogiad economaidd o £38.9 miliwn sy’n cefnogi’r agenda sgiliau a phrentisiaethau. Yn y Gyllideb Derfynol, rydym yn ychwanegu at yr arian sy’n cael ei dargedu ar hyn o bryd at y disgyblion mwyaf difreintiedig trwy gyfwng y Grant Effeithiolrwydd Ysgolion ac i greu cronfa newydd - y Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae’n fwriad gennym ddyrannu £20 miliwn yn ychwanegol i’r Grant hwn yn 2012-13, gyda dyraniad dangosol o £20 miliwn yn y blynyddoedd 2013-14 a 2014-15. Bydd y cymorth wedi’i dargedu hwn yn helpu disgyblion o gefndir difreintiedig i gyflawni eu potensial ac i gyfrannu yn y ffordd orau bosibl at gymdeithas a’r economi.
Nodwedd bwysig ar ein trafodaethau ers i ni gyhoeddi’r Gyllideb Drafft fu defnyddio’r swm canlyniadol o £38.9 miliwn sy’n deillio o benderfyniad Llywodraeth y DU i rewi’r Dreth Gyngor yn Lloegr. Yn unol â’n blaenoriaethau i gefnogi economi Cymru ac i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus, rydym wedi penderfynu defnyddio’r arian hwn i hybu busnes a chreu cyfle i bobl ifanc yn ogystal â chyflogwyr.
Roedd ein cynlluniau blaenorol yn cynnwys arian i ysgogi twf ac amddiffyn swyddi. Ddoe bu i ni gyhoeddi ein cynlluniau i gefnogi pecyn o fesurau i gefnogi sgiliau a darparu prentisiaethau ychwanegol yn ogystal â buddsoddi mewn seilwaith mewn ysgolion, tai a Pharthau Menter a chreu swyddi yn y sector adeiladu. O’r £38.9m, caiff £8.23m ei wario yn ystod 2012-13 gyda’r gweddill yn cael ei wario yn ystod y flwyddyn. Y dyraniadau ar gyfer 2012-13 sy’n cael eu hadlewyrchu yn y Gyllideb Derfynol yw:
- £4.23 miliwn i gefnogi ehangu’r Rhaglen Recriwtiaid Ifanc. Estyniad ar y cynllun presennol yw hyn i ddarparu cymorth ariannol i gyflogwyr cymwys sy’n gallu cynnig rhaglen brentisiaethau o safon uchel. Bydd hyn yn helpu i ariannu 1800 o brentisiaethau pellach;
- £3 miliwn i gefnogi ymestyn Sgiliau Twf Cymru. Mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar lwyddiant ProAct, gan gynnig cymorth i gwmnïau sy’n bwriadu ehangu eu gweithlu ac y mae arnynt angen cymorth ariannol i wneud hyn yn bosibl. Mae’n cydategu Swyddi Twf Cymru; a
- £1 miliwn i gefnogi Prosiect Tai Melin Trelái. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu’r gwaith adfer y mae ei angen i ganiatáu i bartneriaeth eang ddarparu cymysgedd o dai fforddiadwy a thai’r farchnad agored dros y pedair i bum mlynedd nesaf.
Rydym wedi gosod ein hasesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wrth wraidd ein prosesau cyllidebol wrth ddatblygu ein cynlluniau gwario. Ochr yn ochr â’r Gyllideb Derfynol, byddwn yn cyhoeddi’r gwaith ychwanegol a wnaed i asesu effaith rhaglenni newydd a ffrydiau ariannu ar gydraddoldeb ers i Gyllideb Chwefror 2011 gael ei chymeradwyo, ynghyd â’r Asesiad cynhwysfawr o’r Effaith ar Gydraddoldeb a gyhoeddwyd gennym y llynedd. Bydd hyn yn rhoi darlun llawn o’r effaith ar gydraddoldeb. Cynhelir asesiad o’r effeithiau ar gydraddoldeb hefyd ar y dyraniad ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2012-13.
Rydym i gyd wedi wynebu heriau o ganlyniad i’r hinsawdd ariannol anodd bresennol, ac o fewn y cyfyngiadau ariannol presennol, rydym wedi defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i ni yn y ffordd orau bosibl. Mae ein cynlluniau gwario a gynigiwyd yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer Twf a Swyddi yn dal yn sylfaen gadarn wrth i ni wireddu ein huchelgais ar gyfer Cymru, fel y’i hamlinellir yn ein Rhaglen Lywodraethu.