John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Hoffwn hysbysu Aelodau’r Cynulliad fy mod i’n neilltuo £1 miliwn heddiw ar gyfer prosiectau i hybu cryfder ac amrywiaeth ecosystemau. Bydd yr arian hwn yn ategu lwyddiant y gronfa cydnerthedd, amrywiaeth a chydymffurfiaeth ecosystemau y llynedd. Ein nod yw sicrhau ecosystemau iach yng Nghymru gan ddilyn y dull gweithredu a amlinellir yn yr ymgynghoriad cyfredol ‘Cynnal Cymru Fyw’.
Wrth i’r hinsawdd newid, mae amgylchedd Cymru’n wynebu pwysau cynyddol; byddwn yn wynebu mwy a mwy o heriau wrth geisio rheoli prinder dŵr tra bo’r perygl o lifogydd yn cynyddu. Mae dulliau modern o drin y tir yn arwain at bwysau cymhleth ac amrywiol hefyd, wrth i ansawdd y pridd ddirywio a rhywogaethau a chynefinoedd wynebu bygythiadau cynyddol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn rheoli ein hadnoddau naturiol yn eu cyfanrwydd. Mae angen inni ddeall sut gallwn sicrhau’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom gan gynnal amgylchedd cryf ac iach ar yr un pryd.
Mae’n costio llai i gynnal ecosystemau iach nag i drin y problemau yn nes ymlaen. Er enghraifft, drwy reoli’r tir yn dda mewn dalgylchoedd afonydd gallwn gadw’r dŵr yn lân a lleihau llifogydd. Bydd ecosystemau cryf, sy’n gweithio’n dda, yn fwy tebygol o wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol.
Unwaith yn rhagor, bydd y gronfa cryfder ac amrywiaeth ecosystemau yn canolbwyntio ar gyflawni gwell canlyniadau ar gyfer cynefinoedd, rhywogaethau a mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron o fewn y cyd-destun ehangach hwn. Caiff y gronfa ei chynnal ar y cyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.