Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datblygwyd Her Ysgolion Cymru fel ymyriad cyfnod penodol i helpu’r ysgolion oedd yn wynebu’r heriau mwyaf i wella yn gyflymach. Dyrannwyd cyllid ar gyfer trydedd flwyddyn y rhaglen hyd at 31 Mawrth 2017. Dyluniwyd trydedd flwyddyn y rhaglen gyda hyn mewn cof, gyda’r cynllunio ac yna’r gweithredu yn digwydd ar sawl lefel, a hynny er mwyn ceisio sicrhau trosglwyddiad llyfn gan barhau i wella.

I helpu ymhellach â’r trefniadau trosglwyddo, rydym yn ymestyn elfen cymorth cynghorol y rhaglen i gyd-fynd â diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol. Fel rhan o Gyllideb Derfynol 2017-18, mae £200,000 ychwanegol wedi’i roi ar gyfer 2017-18 er mwyn parhau â’r gwasanaeth cymorth cynghori o safon a roddir i ysgolion Llwybrau Llwyddiant.

Bydd adroddiad terfynol y gwerthusiad o Her Ysgolion Cymru ar gael yn nes ymlaen yn ystod Tymor y Gwanwyn. Fodd bynnag, yn y cyfamser bydd fy swyddogion yn parhau i weithio â’r Consortia Addysg i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu o’r rhaglen hon.

Eleni, gwelom y ganran fwyaf o’n dysgwyr yn cael pump TGAU da. Fodd bynnag, mae’n peri pryder imi fod cryn wahaniaeth rhwng perfformiad yr ysgolion sy’n perfformio orau a’r ysgolion sy’n perfformio waethaf. O ystyried hyn, a chan gofio’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu o Her Ysgolion Cymru, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion archwilio gyda’r Consortia Addysg i weld pa waith ychwanegol penodol y gellid ei wneud i gyflymu gwella yn ein hysgolion. Caiff cyhoeddiad arall ei wneud yn y man.