Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch i gyllid ychwanegol i'r Gyllideb Addysg ac ailgyfeirio cyllid presennol, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi sicrhau £20m yn ychwanegol yn 2024-25 i ysgolion, i gefnogi safonau addysg ledled Cymru.
Drwy drafodaethau parhaus â phartneriaid addysg, rwy'n deall yr anawsterau niferus sy'n wynebu'r maes bob dydd, ac rwy'n ddiolchgar am waith caled y gweithlu addysg ledled Cymru.
I gydnabod y pwysau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu, rwyf am ddarparu cymaint o gyllid â phosibl i godi safonau ysgolion a chefnogi ein dysgwyr i ffynnu.
Bydd y cyllid hwn yn ystod y flwyddyn yn darparu cymorth ariannol pellach drwy ein Grant Safonau Ysgolion i helpu ysgolion a lleoliadau eraill i barhau i ddiwallu anghenion eu dysgwyr. Bydd y pecyn cyllido hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ychwanegol wedi'i dargedu at ysgolion sy'n peri pryder, yn enwedig y rhai sydd mewn mesurau arbennig, i'w galluogi i wneud gwelliannau cynaliadwy.
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, Estyn ac undebau athrawon, i sicrhau bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr ledled Cymru.
Trwy gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2024-25 a chyllid yng Nghyllideb Derfynol 2025-26, bydd y sector addysg nawr yn elwa ar £262.5m yn ychwanegol. Mae hyn ar ben y £262m ychwanegol sy'n mynd i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw.
Mae ein penderfyniadau i gynyddu’r cyllid yn cydnabod y pwysau a nodwyd yn ein trafodaethau gyda’r awdurdodau lleol, yn arbennig y pwyntiau pwerus a wnaed gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol ac mewn ysgolion ynghylch y pwysau ar ADY a’r ddarpariaeth addysg yn ehangach.