Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwy'n falch o gael rhyddhau £50m ychwanegol yn 2024-25 i gefnogi seilwaith a safonau addysg ledled Cymru.
Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sydd yna o fewn y sector addysg, ac rwy'n ddiolchgar am ymdrechion mawr y gweithlu wrth iddynt barhau i weithredu dan amgylchiadau mor heriol. Ers dechrau ar fy swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gynharach eleni, rwyf wedi gwrando ar ein partneriaid addysg ledled Cymru ac rwy'n deall yr heriau y maent yn eu hwynebu.
Bydd cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn darparu cymorth y mae ei angen yn fawr ar ysgolion, colegau a lleoliadau eraill i helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr ledled Cymru.
Bydd £20m yn cael ei ddarparu i ysgolion a lleoliadau drwy'r Grant Safonau Ysgolion, gan roi hwb i'r pecyn cymorth hwn i £180m yn 2024-25.
Bydd £10m arall yn cael ei ddefnyddio i gefnogi darpariaeth ADY ledled Cymru i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc ag ADY.
Bydd £20m yn cael ei ddarparu ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau drwy raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy'n ychwanegol at £30m a ddarparwyd eisoes eleni.
Bydd ein Cyllideb Ddrafft, a gyhoeddir yr wythnos nesaf, yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau ac ar sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gyflawni dros Gymru.